British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 28 Mai 2010, 10:41 GMT 11:41 UK
£6.4m yn llai i gyllid heddlu

ceir heddlu
Gweinidog: 'Angen i'r heddluoedd wneud eu rhan'

Mae heddluoedd Cymru yn wynebu gostyngiad o gyfanswm o £6.4 miliwn yn eu cyllid oddi wrth y Swyddfa Gartref.

Mae Heddlu Gwent yn wynebu cwymp o £1.3 miliwn, Heddlu'r Gogledd yn cael £1.4 miliwn yn llai, Heddlu'r De yn wynebu toriad o £2.8 miliwn a Heddlu Dyfed Powys £900,000 yn llai.

Cyfanswm gostyngiadau heddluoedd y pedair gwlad yw £136.7 miliwn.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod nhw'n siomedig.

Mae'r awdurdod wedi cydnabod bod angen lleihau gwariant ond yn dadlau y bydd y toriadau diweddar yn creu anawsterau.

'Anodd'

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys Ian Arundale: "Bydd cadw trefn ar y gyllideb yn eithriadol o anodd yn yr amgylchiadau hyn ond rydym yn llwyr ymroddedig i sicrhau na fydd hyn yn effeithio ar y gwasanaeth llinell flaen.

"Rydym eisoes wedi cymryd camau i beidio â llenwi swyddi sydd ddim yn hanfodol a byddwn yn archwilio pob gwariant ar eitemau heblaw tâl."

Yn ôl y Gweinidog Carchardai, Nick Herbert: "Fel rhan o gynlluniau'r llywodraeth a chael yr economi i symud eto, mae angen i'r heddluoedd wneud eu rhan ac arbed arian.

"Dwi'n croesawu'r ffordd y mae partneriaid plismona wedi ymateb eisoes i gyhoeddiad y canghellor am leihau'r diffyg yn y ddyled."



HEFYD
Lleihau troseddau ar garreg y drws
26 Mai 10 |  Newyddion
Diwedd ar uned geffylau
10 Mai 10 |  Newyddion
'Problemau ariannol' i'r heddlu
30 Tach 06 |  Newyddion
Heddlu: Colli 120 o swyddi
30 Hyd 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific