British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 27 Mai 2010, 20:54 GMT 21:54 UK
IVF: 'Dim digon o arian'

Embryo (generic)
Ers Ebrill eleni mae gan gleifion yng Nghymru hawl i ddwy driniaeth IVF

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gwadu honiadau y bydd yn rhaid i fyrddau iechyd lleol dalu er mwyn ariannu dwy driniaeth IVF.

Mae'r blaid geidwadol yn honni nad ydi'r llywodraeth wedi neilltuo digon o arian ar gyfer y gwasanaeth.

Ond yn ôl y llywodraeth maen nhw wedi neilltuo £800,000 i'r gronfa, ac mae 'na ddigon o gyllid i gynnig dwy driniaeth i gyplau.

Er hynny, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr yng Nghymru ar iechyd, Andrew RT Davies, bod cyfanswm y gost yn £1.6 miliwn.

Honnodd Mr Davies y byddai byrddau iechyd yn gorfod darparu cyllid ychwanegol i wneud yn iawn am y diffyg yn y gyllideb.

Yn 2005 fe gyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad fod gan gleifion hawl i un driniaeth IVF ym mhob rhan o Gymru, wedi iddi ddod i'r amlwg fod y Gwasanaeth Iechyd wedi gwrthod rhoi triniaeth i bobl yn y gogledd, canolbarth a'r gorllewin.

Ers Ebrill eleni mae gan gleifion yng Nghymru hawl i ddwy driniaeth IVF.

'Pasio'r baich'

Dywedodd Mr Davies: "Mae cyflwyno ail gylch o driniaeth IVF i bobl yng Nghymru yn rhywbeth i'w groesawu ac mae'n gam tuag at gwrdd â chanllawiau NICE [National Institute for Health and Clinical Excellence].

"Er hynny, mae'n siomedig bod y gweinidog iechyd yn ymddangos yn fodlon i basio'r baich am dalu rhan o gostau'r driniaeth yn ôl i fyrddau iechyd lleol".

Ond mae Llywodraeth y Cynulliad yn mynnu eu bod wedi darparu adnoddau digonol i sicrhau bod gan gleifion yng Nghymru hawl i ddwy driniaeth IVF

Dywedodd llefarydd: "Nid yw hyn yn fyrdwn ychwanegol i fyrddau iechyd.

"Ymhen amser hoffwn gwrdd â chanllawiau NICE i sicrhau bod gan gleifion yng Nghymru hawl i dair triniaeth IVF".



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
'Camgymeriadau'n dyblu'
25 Ebr 10 |  Newyddion
Embryo: 'Chwalu ein byd'
15 Meh 09 |  Newyddion
Clinig: 'Profiad ysgytwol'
14 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific