Mrs McCartney: 'Dydw i ddim yn byw ar ben mynydd'
|
Mae pensiynwraig wedi dweud bod cwmmi British Telecom wedi ymddwyn yn "warthus" ar ôl iddi gael gwybod y byddai'n costio dros £150,000 iddi gael gwasanaeth band eang. Ers sawl blwyddyn mae Beverley McCartney, sy'n byw yn Salem, ger Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, wedi bod eisiau cael band eang. Roedd BT wedi dweud wrthi yn y gorffennol na fyddai modd iddi gael band eang ond anfonwyd llythyr ati yr wythnos diwethaf yn dweud bod modd iddi ei gael erbyn hyn. Dywedodd y cwmni y bydden nhw'n gallu cyfrannu £8,000, dim ond os yw hi'n talu £129,613.54 a threth ar werth, sy'n gyfanswm o dros £150,000. 'Chwerthinllyd' Dywedodd Mrs McCartney: "Fe wnes i chwerthin. Mae'n chwerthinllyd o gofio eu helw. "Fe wnes i ffonio BT gan feddwl mai camgymeriad teipio oedd e.
Dyma'r llythyr gafodd Mrs McCartney
|
"Fe ddywedodd y ferch: 'Na, does dim camgymeriad wedi bod, mae pobl eraill wedi cael biliau am lawer mwy na hyn'. "Mae'n warthus. Dim ond chwerthin dwi'n gallu ei wneud neu fe fydda i'n crio. "Dwi ddim yn gallu fforddio £2,000 heb sôn am £150,000," meddai. Dywedodd Chris Orum ar ran BT: "Mae 'na achosion prin lle mae angen codi prisiau ychwanegol oherwydd gwaith eithriadol sydd angen ei wneud i'r rhwydwaith er mwyn darparu gwasanaeth. "Mae BT yn buddsoddi biliynau o bunnau yn y rhwydwaith yn y DU ac yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y Cynulliad i ddod o hyd i atebion ar gyfer yr ardaloedd cymharol brin yng Nghymru sy'n methu cael mynediad at wasanaeth band eang." Ond ychwanegodd Mrs McCartney: "Dwi'n byw dair milltir o Landeilo. "Mae tua 50 o dai yn Salem a dwi'n siŵr y bydden nhw'n hoffi cael band eang hefyd. "Dydw i ddim yn byw ar ben mynydd yng nghanol unman."
|