Ildiodd Pervez Musharraf yr awennau ym Mhacistan yn 2008
|
Fe fydd gwleidyddion, llenorion, digrifwyr a cherddorion yn tyrru i Ŵyl lenyddol Y Gelli. Mae disgwyl y bydd dros 100,000 o bobl o bob cwr o'r byd yno tan Fehefin 6. Hon yw'r 23ain gŵyl i'w chynnal yn nhref marchnad Y Gelli Gandryll ar y gororau. Mae'r dref yn enwog am ei 40 o siopau llyfrau. Bydd dros 200 o ddigwyddiadau yn yr ŵyl eleni. Y person amlycaf o'r byd gwleidyddol yw cyn arweinydd Pacistan, Pervez Musharraf, tra bydd arlywydd y Maldives, Mohammed Nasheed, hefyd yn bresennol. Mae disgwyl i'r Dirprwy Brif Weinidog newydd, Nick Clegg, yr ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Ed Miliband a chyn gyfarwyddwr cyfathrebu Llafur Alastair Campbell ymweld â'r ŵyl. Ymhlith yr awduron sy'n ymweld y mae'r dramodydd Tom Stoppard, Hilary Mantel a enillodd wobr Man Booker 2009, Martin Amis a Zadie Smith. Rhestr fer Un o'r uchafbwyntiau fydd cyhoeddi rhestr fer o dri llyfr yn y Gymraeg a'r Saesneg yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn ddydd Sul. Ar y rhestr hir o 10 cyfrol Gymraeg y mae dwy gyfrol o gerddi, sef Banerog gan Hywel Griffiths a Llwybrau, casgliad cyntaf Haf Llewelyn. Y nofelau ar y rhestr yw gweithiau Manon Steffan Ros (Fel Aderyn), Siân Owen (Mân Esgyrn), Siân Melangell Dafydd (Y Trydydd Peth), Caryl Lewis (Naw Mis) a Cefin Roberts (Cymer y Seren).
Mae disgwyl y bydd dros 100,000 o bobol o bob cwr o'r byd yn dod i'r ŵyl
|
Casgliad o straeon, cerddi a llên meicro sydd gan Manon Rhys yn ei chyfrol Cornel Aur ac fe luniodd D. Densil Morgan astudiaeth ar waith Lewis Edwards, un o ysgolheigion mwyaf Cymru yn ystod y 19eg ganrif, yng nghyfres Dawn Dweud. Y gyfrol arall ar y rhestr yw un John Davies, Cymru: Y 100 Lle i'w Gweld cyn Marw. Yr awduron sydd wedi llwyddo i gyrraedd y rhestr hir Saesneg yw Horatio Clare, Jasmine Donahaye, Philip Gross, Emyr Humphreys, Peter Lord, Mike Thomas, Nikolai Tolstoy, Alun Trevor, Richard Marggraf Turley a Terri Wiltshire. Dywedodd cyfarwyddwr yr ŵyl, Peter Florence: "Os oes gennych ddiddordeb yn y byd ac mewn pobl, mewn cariad a marwolaeth, yn y ffordd orau o weithredu a sut mae bod yn hapus, mae'r Gelli Gandryll yn lle gwych i fod." Mae Gŵyl y Gelli Gandryll, gafodd ei sefydlu o amgylch bwrdd y gegin ym 1987, yn fusnes gwerth miliynau o bunnoedd erbyn hyn. Mae nifer o enwogion wedi cael eu denu i'r ŵyl ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys cyn arlywyddion yr Unol Daleithiau, Bill Clinton a Jimmy Carter.
Mae'r 10 cyfrol yma ar y rhestr fer eleni ar gyfer Llyfr y Flwyddyn
|