British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 27 Mai 2010, 11:40 GMT 12:40 UK
Dathlu codi twr ar gopa ucha'r gogledd ddwyrain

Yr olygfa o Dŵr Y JiwbilÓ
Yr olygfa o'r tŵr

Mae 'na 200 mlynedd ers i'r tŵr uchaf yng ngogledd ddwyrain Cymru gael ei godi.

I weld Tŵr y Jiwbilî mae'n rhaid cyrraedd copa Moel Famau sydd rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug.

Ar ddechrau 1810 cafodd cynlluniau eu gwneud gan fawrion yr ardal i godi cofeb i nodi Jiwbilî Aur Brenin Siôr III.

Cychwynnwyd casglu arian i dalu am y tŵr sydd i'w weld ar gopa ucha'r ardal.

Yn ddiweddarach yn 1810 cafodd y garreg sylfaen ei gosod o flaen miloedd oedd wedi cyrraedd y copa.

Tŵr y JibilÓ ar gopa Moel Famau
Tŵr y JibilÓ ar gopa Moel Famau

Yn ôl dogfennau o'r cyfnod cafwyd ychen wedi ei rostio a dathliadau ar y copa.

Mae 'na gyfres o ddathliadau i'w cynnal yn yr ardal cyn y ddau ganmlwyddiant ar Hydref 20.

Mae'r olygfa o'r copa erbyn heddiw tipyn gwahanol i'r hyn yr oedd yn 1810.

Fe gafodd cofeb ar ffurf Eifftaidd ei chwalu mewn storm yn 1850 ac erbyn 1862 cafodd y gweddillion eu symud oddi yno gan adael yr hyn a welir yno heddiw.

O'r copa mae modd gweld golygfeydd o Ddyffryn Clwyd a lawr i'r glannau a Glannau Mersi.

Dydd Iau fe fydd modd cerdded i'r copa gyda'r nos i "fwynhau'r haul yn machlud".

Mae Moel Famau yn rhan o Fryniau Clwyd sydd eleni yn dathlu 25 mlynedd o fod yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.



HEFYD
Cerflun unigryw ar ben y bryn
16 Awst 08 |  Newyddion
Prifwyl: Cyrraedd y copa
09 Gorff 07 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific