British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 25 Mai 2010, 15:50 GMT 16:50 UK
Arddangos celf eiconig

Gwaith William Tucker
"Four Part Sculpture 1" gan William Tucker yn cael ei ddadorchuddio yn Rhuthun nos Fawrth

Mae darn o gelf eiconig o'r chwedegau yn cael ei arddangos yn Rhuthun ger tŷ ffrâm goed hynaf Cymru o'r bymthegfed ganrif.

William Tucker grëodd y "Four Part Sculpture 1" sy'n cael ei arddangos yng ngardd Nantclwyd y Dre ac mae ei waith wedi cael ei arddangos yn rhai o orielau mawr y byd fel Amgueddfa Hirshhorn yn Washington a'r Academi Gelf Frenhinol yn Llundain.

Mae'r gwaith ar fenthyg gan barc cerflunio Roche Court yng Nghaersallog tan ddiwedd mis Medi.

Y Fonesig Ponsonby yw perchennog y darn.

Fe gytunodd roi benthyg y gwaith wedi trafodaethau gyda Chyngor Tref Rhuthun, Cyngor Sir Ddinbych a'r ymgynghorydd celf Michael Nixon.

Bu Mr Nixon yn allweddol wrth greu, cynllunio ac adeiladu Canolfan Gelf Rhuthun sydd bellach yn denu dros 100,000 o ymwelwyr yn flynyddol.

Blaenllaw

Dywedodd Mr Nixon bod "William Tucker wedi chwarae rhan flaenllaw iawn yn y broses o weddnewid cerflunio ym Mhrydain yn y 60au" a bod benthyg ei waith am ychydig fisoedd yn "bluen anferth yng nghap Rhuthun".

Mae'r darn penodol hwn o waith William Tucker wedi ei greu gyda phedwar silindr gwydr ffibr sy'n creu sgwâr sydd dros saith troedfedd o led a thair troedfedd o uchder.

Mae cyn faer y dref, Gavin Harris, yn falch iawn bod y celfyddydau yn amlwg yn Rhuthun.

Dywedodd fod gan y dref "enw da cynyddol yn y cylchoedd diwylliannol" a bod y datblygiadau diweddar yn "rhoi pleser i nifer fawr o bobl ac yn cynnig y cyfle i unigolion feddwl "ychydig yn wahanol am y byd a'i bethau".

Gobaith Sue Haygarth ar ran Cyngor Sir Ddinbych yw y bydd y datblygiadau celfyddydol yn Rhuthun yn denu ymwelwyr i'r dref.

"Os yw pobl yn dod i weld y gwaith, y gobaith yw y byddan nhw'n aros yn y dref ac yn chwyddo coffrau'r economi leol."

Gwaith William Tucker
Michael Nixon, ymgynghorydd celf gyda William Tucker yng ngerddi Nantclwyd y Dre




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific