British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 24 Mai 2010, 17:46 GMT 18:46 UK
S4C yn derbyn £2 miliwn yn llai gan y Llywodraeth

logo S4C

Mae'r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon wedi cadarnhau y bydd S4C yn derbyn £2 miliwn yn llai eleni.

Dywedodd llefarydd ar ran yr adran y byddai angen i bob mudiad a sector oedd yn cael eu hariannu gyfrannu at arbedion eleni o £88 miliwn.

Mae S4C wedi dweud eu bod yn gobeithio na fydd y toriadau'n effeithio ar wasanaethau i wylwyr.

"Er hynny, byddai'n rhaid ystyried unrhyw doriadau pellach yng nghyllideb S4C yn nhermau effeithiau niweidiol ar wasanaethau ac ar gyfraniad economaidd S4C," ychwaengodd llefarydd.

Fe fydd cyllid yr adran yn Llundain £61 miliwn yn llai ac un Awdurdod Cyflwyno'r Gemau Olympaidd £27 miliwn yn llai.

Cafodd y cyhoeddiad ei feirniadu gan Alun Ffred Jones, Gweinidog Diwylliant Cymru.

Dywedodd Mr Jones, AC Plaid Cymru dros Arfon, fod ei blaid wedi arwain y frwydr yn erbyn y Ceidwadwyr i sefydlu S4C.

Os oedd angen, meddai, "mi fyddwn yn ymladd â'r Ceidwadwyr i ddiogelu dyfodol y sianel".

'Consensws'

"Mae 'na gonsensws trawsbleidiol yng Nghymru i warchod cyllid darlledu drwy'r Gymraeg ac i sicrhau bod y sianel yn gwasanaethau anghenion diwylliannol ac economaidd y wlad.

"Mae'n beth naturiol i'r Blaid Geidwadol herio'r iaith Gymraeg o fewn wythnosau i ddod i rym er bod eu ASau wedi addo drwy'r etholiad na fyddai bygythiad i ddyfodol cyllido S4C.

"Ar hyn o bryd fe ddylai Ysgrifennydd Cymru fod yn brwydro dros Gymru yn erbyn bygythiad ei phlaid i wneud y toriadau mewn gwasanaeth newyddion i Gymru yn Saesneg.

"Roedden ni'n gwybod na fyddai'r Ceidwadwyr na'r Democratiaid Rhyddfrydol fyth yn rhannu blaenoriaethau pobl Cymru."

Beirniadu

Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, hefyd wedi beirniadu'r cyhoeddiad.

"Dyma ergyd uniongyrchol arall gan y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol," meddai.

"Fe fydd £2 miliwn o doriad yn niweidio busnes Cymreig mor ganolog i'r diwydiant creadigol ac mor bwysig i economi ddigidol Cymru.

"Nid dim ond gwella darlledu Cymraeg a chefnogi twf yr iaith ydi gwerth S4C ond hefyd ddatblygu diwydiant creadigol fel y bydd yn un o'r rhai gorau."

Ar raglen y 'Post Cyntaf' ar Radio Cymru ddydd Mawrth,rhybuddiodd Jamie Medhurst,sy'n ddarlithydd ar faterion cyfryngol ym Mhrifysgol Aberystwyth y gall y toriadau effeithio ar ansawdd rhaglenni'r sianel.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific