British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 24 Mai 2010, 16:06 GMT 17:06 UK
Chwilio am brynwr i gwmni adnoddau Barcud Derwen

Stiwdio Barcud, Caernarfon
Stiwdio Barcud ar Stad Cibyn yng Nghaernarfon

Parhau mae'r gwaith o geisio dod o hyd i brynwr ar gyfer cwmni adnoddau teledu mwyaf Cymru.

Mae Barcud Derwen, sydd â chanolfannau yng Nghaerdydd a Chaernarfon, wedi wynebu trafferthion ariannol ac wedi gofyn i gwmni Grant Thornton chwilio am brynwr.

Yn y cyfamser, mae nifer o weithwyr hunangyflogedig wedi dweud eu bod yn aros o hyd am daliadau.

Doedd neb o gwmni Barcud Derwen na chwmni Grant Thornton yn fodlon gwneud sylw.

'Yn drist'

Fe gafodd Barcud Derwen ei sefydlu yn 1997 wrth i'r ddau gwmni gyfuno a chreu'r cwmni adnoddau teledu mwyaf ym Mhrydain tu allan i ardal Llundain.

Bellach mae'n cynnwys 11 o adrannau a chanddo ganolfannau yn Iwerddon, Yr Alban a Lloegr.

Dywedodd Iwan Edgar, fu'n gweithio i'r cwmni am fwy na 15 mlynedd ac sy'n un o'r cyfranddalwyr mwyaf,: "Mae'n drist ond ddim yn anisgwyl.

"Ers rhai blynyddoedd mae 'na wegian wedi bod yn hanes y cwmni, yn enwedig yn y flwyddyn a hanner ddiwetha.

"Maen nhw wedi gwneud llanast buddsoddol difrifol drwy geisio ehangu rhyw fath o grŵp neu ymerodraeth ac mae hyn wedi troi'n chwerw.

"Mi wnaethon nhw werthu cwmni o'r enw The Farm yn Nulyn tua diwedd 2008 am un ewro a chyfadde ar y cyfrifon eu bod nhw wedi gwneud dros £2 miliwn o golled."

'Colled'

Dywedodd na allai cwmni o faint Barcud Derwen oroesi â cholled o'r fath.

"Mae pob dim ar ôl hynny wedi mynd yn ysglyfaeth i fethu ail-fuddsoddi," ychwanegodd.

Yn ddiweddar, meddai, roedd y cyfrifon yn dangos £1 miliwn o golled un flwyddyn, £800,000 y flwyddyn wedyn a £600,000 y flwyddyn ganlynol.

Ac roedd adroddiadau mewn papur newydd, meddai, fod £600,000 o golled yn y flwyddyn ariannol bresennol.

Eisoes mae nifer o weithwyr hunan-gyflogedig wedi dweud eu bod yn dal i aros am arian sy'n ddyledus iddyn nhw.

Dywedodd dyn camera fod yna £13,000 yn ddyledus iddo a'i fod yn ceisio cael cyngor cyfreithiol.

Y cwmni, sydd â stiwdio ac adnoddau darlledu a ffilmio ar Stad Cibyn yng Nghaernarfon, oedd yn darlledu trafodaethau'r cynulliad ym Mae Caerdydd.

Cwmni Bow Tie sy wedi ennill y cytundeb.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific