British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 24 Mai 2010, 11:56 GMT 12:56 UK
£270,000 - cost Prif Weithedwr dros dro Ynys Môn

David Bowles
Datgelwyd bod y cyngor yn talu £270,000 am wasanaeth David Bowles wedi cais Rhyddid Gwybodaeth.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi datgelu eu bod yn talu £270,000 y flwyddyn am wasanaeth eu rheolwr gyfarwyddwr dros dro.

Telir costau David Bowles drwy asiantaeth Solace Enterprises.

Fe gafodd ei benodi wedi i Lywodraeth y Cynulliad benderfynu rheoli'r cyngor wedi adroddiad damniol yr Archwilydd Cyffredinol.

Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Clive McGregor, ei fod yn "falch bod y manylion wedi cael eu cyhoeddi" wedi cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth.

Ychwanegodd ei fod yn "cydnabod bod hyn er lles y cyhoedd".

Cadarnhaodd y cyngor nad oedden nhw'n gwybod faint o gyflog y mae Mr Bowles yn cael ei dalu gan Solace Enterprises.

'Isafswm'

Dywedodd Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, John Stevenson, mai isafswm y gwir gost i'r cyngor oedd £270,000.

"Rhaid hefyd gymryd i ystyriaeth gostau teithio, Treth ar Werth, costau llety a chostau'r bwrdd sy'n goruchwylio gwaith David Bowles".

Swyddfeydd Cyngor Ynys Môn
Mae Cyngor Ynys Môn yn cael ei reoli gan y cynulliad.

Nid yw'r costau goruchwylio hyn wedi eu cyhoeddi eto.

Dywedodd y Cynghorydd John Chorlton, Arweinydd y Grŵp Llafur, ei fod yn "siomedig bod y cytundeb yn costio cymaint o bres" ac ychwanegodd y byddai cynghorwyr "wedi gofyn cwestiynau tipyn mwy treiddgar" pe bydden nhw'n gwybod am yr oblygiadau ariannol ynghynt.

Mae Peter Rogers, un arall o'r cynghorwyr sir, wedi dweud bod Mr Bowlesd yn wynebu "tasg amhosib" a bod y gost am ei ei wasanaeth yn "bitw" o ystyried bod "nifer o gynghorwyr wedi bod yn ceisio tanseilio'i waith".



HEFYD
Pennaeth: 'Gadael swydd'
16 Awst 09 |  Newyddion
Llythyr deifiol yn 'corddi'r dyfroedd'
21 Ion 10 |  Newyddion
Cyngor Môn o dan y lach
15 Maw 02 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific