British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 24 Mai 2010, 11:00 GMT 12:00 UK
Toriadau o 162m i Gymru

Arian
George Osborne yn cyhoeddi toriadau o 6 biliwn

Mae Swyddfa Cymru wedi dweud y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn wynebu toriadau o £162 miliwn oherwydd cyhoeddiad y Canghellor.

Daeth y cyhoeddiad fore Llun wrth i'r Canghellor Geroge Osborne gyhoeddi manylion am y £6 biliwn y mae rhaid i Lywodraeth San Steffan eu harbed.

Eisoes mae wedi dweud y gallai llywodraethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon oedi am flwyddyn cyn gwneud yr arbedion.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud bod angen mwy o fanylion am sgileffeithiau cyn penderfynu gohirio'r arbedion.

Dydd Llun dywedodd y Canghellor y byddai Cymru'n wynebu toriadau o £187 miliwn ond dywedodd Swyddfa Cymru y byddai hyn yn gostwng i £162.5 miliwn oherwydd "arbedion ailgylchu," hynny yw am fod rhai o arbedion adrannau Whitehall yn cael eu buddsoddi yng Nghymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, fod y toriadau'n cyfateb i 1.2% o gyllideb y cynulliad.

'Yn anodd'

"Mae'r penderfyniadau wedi bod yn anodd ond dylai Cymru gyfrannu at leihau'r ddyled ariannol enfawr ...

"Dwi'n falch ein bod ni wedi cyfyngu'r arbedion i 1.2% am fod hyn yn llawer is na llawer o adrannau llywodarethol."

Mae'r Gweinidog Busnes a Chyllid Cymru, Jane Hutt, wedi dweud y bydd Cymru'n "chware ei rhan" yn y broses o ad-dalu'r ddyled gyhoeddus ond ni fydd hynny'n hawdd.

"Rhaid cofio hyn, bod y toriadau'n orfodol er gwaetha'r ffaith fod Cymru'n derbyn £300 miliwn yn llai bob blwyddyn."

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd hi'n anodd canfod arbenion mewn cyllideb o £15.7 biliwn sydd wedi ei glustnodi ar gyfer eleni.

Traean yn fwy

Honnodd Plaid Cymru fod y toriadau yng Nghymru draean yn fwy na'r ffigurau cyfartalog yn y pedair gwlad.

Dywedodd Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams: "Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gwybod am hyn ers amser hir ... fe ddylai ymddwyn yn gyfrifol a gwarchod gwasanaethau llinell flaen.

"Dyma'r hyn y mae Llywodraeth San Steffan yn ei wneud."

Yn y cyfamser mae David Laws, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, wedi dweud y bydd taliadau i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn dirwyn i ben ym mis Ionawr.

"Byddai torri'n ôl ar roi arian i blant newyddanedig - a thaliadau eraill o'r cynllun - yn arbed £520 miliwn.

'Ar ben'

"Mae cyfnod digonedd arian cyhoeddus ar gael ar ben," meddai.

"Ond rydym yn addo y byddwn yn gwneud y toriadau'n ofalus."

Dros gyfnod o bum mlynedd mae Llywodraeth San Steffan am geisio lleihau gorwario yn y gyllideb o £156 biliwn.

Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi mewn cyllideb brys ar Fehefin 22.



HEFYD
700m yn llai yn yr Adran Fusnes
23 Mai 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific