Peter Elias Jones: 'Arloeswr teledu'
|
Bu farw Cynreolwr Adloniant HTV Cymru, Peter Elias Jones, yn 66 oed. Roedd yn gyfrifol am raglenni fel Miri Mawr, Ffalabalam, Ibiza Ibiza a Jacpot. Yn wreiddiol o Langefni, mae'n gadael gwraig a dwy ferch. Aeth i Brifysgol Leeds lle astudiodd Saesneg a Cherddoriaeth cyn cael gwaith yn ITV. Fe ar un adeg oedd cyfarwyddwr ifanca y rhwydwaith. Wedyn fe ddaeth yn Bennaeth Rhaglenni Plant HTV Cymru a rheolwr cyn gweithio fel cynhyrchydd annibynnol. Dywedodd Dafydd Hywel, fu'n actio Caleb yn y gyfres Miri Mawr, fod Peter yn "arloeswr". "Arwydd o lwyddiant a doniolwch Miri Mawr oedd y ffaith ein bod ni'n gorfod rhoi stop ar y ffilmio'n gyson gan bod y dynion camera'n wherthin. 'Calon' "Syniad Pete oedd y gyfres ac roedd yn gyfnod hapus iawn ac roedd clywed y newyddion trist iawn nos Fawrth yn dipyn o sioc. "Fyddai Pete byth yn 'y ngalw i'n Dafydd na DH ar y set - Caleb fyddwn i drwy'r amser. "Roedd yn gyfnod difyr, doniol, newydd oedd yn lot fawr o hwyl.
Bu'n Rheolwr Adloniant HTV Cymru
|
"Peter, heb os, oedd calon y gyfres." Dywedodd y cyflwynydd a chynhyrchydd teledu Iestyn Garlick: "Roedd Pete yn arloeswr - yn barod i fentro. "Mae'r syniad o wneud rhaglen fel Miri Mawr yn gwbl chwerthinllyd os dach chi'n meddwl amdano ond mi wnaeth y rhaglen yn gwlt. "Roedd Caleb yn cael ei fobio mewn eisteddfodau yn y saithdegau. "Mi wnaeth Pete fraenaru'r tir i bob math o bethau."
|