British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 19 Mai 2010, 14:57 GMT 15:57 UK
Clegg yn addo diwygio gwleidyddol

Nick Clegg
Nick Clegg am "ddiwygio'r drefn".

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, wedi addo'r "diwygiad gwleidyddol mwyaf ers 178 o flynyddoedd".

Bwriad llywodraeth glymbleidiol y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yw cyflwyno tymhorau penodol ar gyfer y Senedd yn San Steffan, sicrhau bod Tŷ'r Arglwyddi yn etholedig yn ogystal â newid y drefn bleidleisio.

Mr Clegg sy'n goruchwylio'r newidiadau yma ar ran y llywodraeth a'i fwriad yw "gweddnewid ein gwleidyddiaeth fel bo gan y wladwriaeth lai o reolaeth dros y boblogaeth a bod gan y boblogaeth fwy o rym dros y wladwriaeth".

Cynlluniau eraill ar waith yw dileu'r bwriad o gyflwyno cerdiau adnabod, sicrhau bod camerau cylch cyfyng yn cael eu "rheoleiddio'n gywir" a diwygio'r drefn o storio manylion DNA pobl ddieuog.

'Llwgr'

Addawodd Mr Clegg hefyd y byddai gan etholwyr yr hawl i gael gwared ag Aelodau Seneddol llwgr ac y byddai aelodau Tŷ'r Arglwyddi yn cael eu hethol drwy system "gyfrannol".

Dywedodd mai "dyma'r diwygiad mwyaf yn ein trefn wleidyddol ers 1832 pan ail-ddiffinwyd democratiaeth ym Mhrydain" ac y byddai'r llywodraeth newydd yn "perswadio pobl i osod eu ffydd mewn gwleidyddiaeth unwaith eto".

Ychwanegodd bod y gwahaniaethau rhwng y ddwy blaid lywodraethol "bron yn amhosib i'w hadnabod" ar y materion hyn.

Cyfaddefodd y Dirprwy Brif Weinidog serch hynny nad oedd dyddiad ar gyfer y refferendwm i newid y drefn bleidleisio wedi ei gadarnhau eto ac nad oedd yr "union eiriad" wedi ei benderfynu.

Derbyniodd hefyd na fyddai'r Torïaid a'r Democratiaid yn "unedig" ar y mater hwnnw ac y byddant yn ymgyrchu yn erbyn ei gilydd bryd hynny.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific