British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 14 Mai 2010, 11:34 GMT 12:34 UK
Gorchymyn ymchwiliad i safle sment

Gwaith Hanson, Padeswood
Dywed y cwmni bod y "drws ar agor"

Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi gorchymyn ymchwiliad ar ôl pryderon am gysylltiadau posib rhwng ffatri sment yn Sir y Fflint ac achosion canser.

Daw cyhoeddiad Edwina Hart ar ôl i Gyngor Cymuned Pen-y-ffordd honni bod 'na "gynnydd" mewn achosion yn yr ardaloedd ger Gwaith Sment Hanson ym Mhadeswood ger Yr Wyddgrug.

Mae cwmni Hanson, Castle Cement gynt, wedi croesawu'r ymchwiliad - a dweud nad oes 'na ddim "bygythiad i iechyd".

Dywedodd Ms Hart ei bod hi wedi gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru ymchwilio i'r mater.

Ym mis Ebrill fe ddywedodd clerc y cyngor cymuned, Nigel Jones, mewn llythyr at Ms Hart "ei bod hi'n ffaith bod 'na gynnydd mewn achosion o ganser ym Mhen-y-ffordd ac ym mhentrefi cyfagos Penymynydd, Padeswood, Bwcle, Coed-llai a Phenarlâg".

Fe ofynnodd Mr Jones ofyn am ymchwiliad llawn "fel mater o frys".

'Deall'

"Fe fydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydweithio â'r gymuned leol, Asiantaeth yr Amgylchedd, Bwrdd Iechyd Lleol a'r Asiantaeth Gwarchod Iechyd er mwyn deall y pryderon a chynnig gwybodaeth a chefnogaeth addas," meddai Llywodraeth y Cynulliad.

Mae cwmni Hanson, rhan o Heidelberg Cement, wedi dweud bod ymchwiliad yn 2004 yn nodi nad oedd problemau iechyd yn gysylltiedig â'r safle a bod Llywodraeth y Cynulliad ac Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru wedi cadarnhau'r adroddiad.

Roedd yr ymchwiliad yn ystyried nifer yr achosion canser.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni, David Weeks: "Rydym yn fodlon cydweithio ag unrhyw un sydd eisiau edrych ar gofnodion y cwmni ..."

Mae Aelod Cynulliad Ceidwadol Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi dweud: "Dwi'n croesawu argymhelliad y gweinidog a'r angen am ymchwiliad i achos clystyrau honedig o ganser yn ardal y ffatri ...

"Rhaid iddo fod yn drylwyr ac yn annibynnol er mwyn bod yn effeithiol a dibynadwy.

"A rhaid ateb y pryderon - nid yn unig oherwydd bod pobl fel fy merch wedi cael canser yn 20 oed ac wedi gwella ond hefyd cyn-weithwyr sydd wedi diodde o ganser."



HEFYD
£250,000 o ddirwy i gwmni
18 Chwef 10 |  Newyddion
Sment: Ymchwiliad cyhoeddus
30 Awst 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific