Mae'r Gymdeithas Er Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA) yn credu bod wyth cath a fu farw mewn pentref ar gyrion Wrecsam mewn cyfnod o ddau fis wedi cael eu gwenwyno. Y gred ydi bod y cathod wedi eu gwenwyno gan hylif atal rhewi. Fe wnaeth dwy gath yng Nghoedpoeth ddioddef o fethiant arennol, ac o fewn ychydig strydoedd fe wnaeth o leiaf chwe chath arall farw. "Mae rhywbeth rhyfedd yn mynd ymlaen yn y rhan hon o Wrecsam," meddai'r Arolygydd Tim Jones. Ond ychwanegodd hefyd eu bod fel cymdeithas yn cadw meddwl agored. "Fe allai'r cathod fod wedi cael eu gwenwyno yn ddamweiniol neu yn fwriadol," ychwanegodd Mr Jones. "Dwi'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda ni. "Os oes rhywun yn mynd ati yn fwriadol i dargedu cathod yna maen nhw'n cyflawni trosedd ac mae angen atal hyn ar frys. "Hoffwn atgoffa pobl i gadw unrhyw beth gwenwynig o'r neilltu ac i fod yn ofalus."
|