British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 14 Mai 2010, 17:57 GMT 18:57 UK
Cheryl Gillan yn ymweld Chymru

Cheryl Gillan
Ysgrifennydd Cymru: Cheryl Gillan

Mae Ysgrifennydd Cymru yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf ers iddi gael ei phenodi i'r swydd ddydd Mercher.

Mae Cheryl Gillan wedi cyhoeddi na fydd hi na'i swyddogion yn teithio ar wasanaethau dosbarth cyntaf ar drenau o hyn ymlaen.

Fe wnaeth Ms Gillan gyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Yn dilyn cyfarfod adeiladol, meddai'r Prif Weinidog: "Roedd y cyfarfod hwn yn gyfle da i drafod nifer o faterion pwysig yn ymwneud â Chymru ac rwy'n edrych ymlaen i weithio gyda'r Ysgrifenydd Gwladol newydd i fwrw ymlaen â'r materion hyn."

Pan gafodd hi ei phenodi yn gynharach yn yr wythnos dywedodd Mr Jones ei bod hi wedi cysylltu ag e a'i bod yn dymuno cael cyfarfod buan.

Dywedodd Mr Jones ei fod am "ddatblygu perthynas adeiladol a sicrhau fod blaenoriaethau pobl Cymru yn cael eu rhoi yn gyntaf".

Fe wnaeth Ms Gillan hefyd gwrdd â Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, a Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

Yn ogystal ag ymweld â Bae Caerdydd fe wnaeth Ms Gillian, sy'n hanu o'r brifddinas, fynd i ganolfan sy'n helpu oedolion â phroblemau dysgu yn Y Barri ym Mro Morgannwg.

Bu Ms Gillan yn llefarydd yr Wrthblaid ar Gymru er 2005 ac mae hi'n cynrychioli etholaeth Chesham ac Amersham er 1992.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific