I nifer o deuluoedd, y Sioe Fawr yw eu gwyliau blynyddol
|
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud wrth swyddogion addysg y bydd rhaid i bob ysgol gau'n gynt na'r disgwyl ym mis Gorffennaf 2011 fel y gall staff a disgyblion fynd i'r Sioe Fawr yn Llanelwedd. Yn wreiddiol, roedd chwe awdurdod lleol y gogledd wedi cytuno dyddiadau gwyliau ar gyfer y chwe blynedd nesaf, hynny yw y byddai ysgolion yn cau ar Orffennaf 20. Ond mewn cyfarfod ddydd Iau fe benderfynodd y cyngor newid y dyddiad i Orffennaf 16 y flwyddyn nesaf oherwydd y sioe. Cyn y cyfarfod roedd Dewi Jones, Pennaeth Addysg Gwynedd, wedi ymgynghori â phenaethiaid ysgolion uwchradd, cynradd ac arbennig yn ogystal â fforwm undebau'r athrawon. Dywedodd nad oedd yr un ohonyn nhw am newid y dyddiadau. Yn ei adroddiad roedd yn awgrymu mai'r ffordd ymlaen fyddai gwneud trefniadau unigol ym mhob ysgol, gan awgrymu y gellid cynnal dyddiau hyfforddiant mewn swydd adeg y sioe. Ond mater i Lywodraeth y Cynulliad, meddai, fyddai sefydlu patrwm gwyliau cenedlaethol i holl ysgolion Cymru. "Be dwi wedi 'wneud ydi cysylltu efo gweinyddiad Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru a gofyn lle ydan ni o ran y drafodaeth. 'Pennu' "Mae'r cyfarwyddyd yn ddigon clir, awdurdodau unigol sydd i fod i bennu dyddiadau gwyliau ysgol. "Y cam nesaf fydd trafod a ffurfio patrwm cenedlaethol sy'n golygu edrych ar osod gwyliau ysgol a hanner tymor a'i osod yn gadarn yn ei le a chael trafodaeth efo'r undebau a'r awdurdodau." Dywedodd Geraint Hughes, Dirprwy Brifathro Ysgol Uwchradd Botwnnog ger Pwllheli, cyn y cyfarfod: "Mi fyddwn i'n caniatáu i ddisgyblion fynd ar wyliau teuluol ... mae'n rhywbeth traddodiadol yn yr ardal ac mae natur y diwydiant twristiaeth yn golygu nad ydi hi'n bosib i rai disgyblion fynd â phlant ar wyliau yn ystod gwyliau haf yr ysgol. 'Yn deall' "Dydan ni ddim yn argymell mynd â phlant o'r ysgol cyn diwedd y tymor ond mi fysan ni'n deall yn yr achos yma os ydi plant eisiau mynd gyda'u rhieni ar wyliau i'r Sioe." Dau o ddisgyblion yr ysgol yw Osian ac Owain. "Dwi'n mynd bob blwyddyn efo Mam a Dad a fyswn i'n dal i fynd a methu ysgol," meddai Osian cyn y cyarfod. "Dwi'n dal i fynd i fynd efo Mam a Dad a cholli'r ysgol," meddai Owain. "Er fyddai'n brafiach peidio colli ysgol ond mae fy rhieni yn cytuno ac yn fodlon i mi golli ysgol."
|