British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 13 Mai 2010, 07:23 GMT 08:23 UK
Ymweliad Cameron Chymru 'o fewn dyddiau'

David Cameron
Mae disgwyl i David Cameron ymweld Chymru o fewn yr wythnos

Mae Prif Weinidog newydd Prydain, David Cameron, wedi cysylltu gyda Phrif Weinidog Cymru.

Mewn galwad ffôn nos Fercher at Carwyn Jones dywedodd Mr Cameron y bydd yn ceisio ymweld â Chymru yn fuan.

Dywedodd ei fod yn gobeithio ymweld â Chaerdydd o fewn wythnos.

Yn ol Gohebydd Seneddol BBC Cymru, David Cornock, roedd yr alwad yn "fyr ac yn fater o gwrteisi".

Daw hyn wedi iddo gyhoeddi mai Cheryl Gillan fydd Ysgrifennydd Cymru yn y cabinet newydd .

Mae Ms Gillan wedi dweud ei bod yn edrych ymlaen at gael perthynas broffesiynol gyda Mr Jones a'i gabinet.

"Mae Carwyn a fi wedi cael perthynas cwrtais a dwi'n credu y bydd hyn yn parhau," meddai.

Mae hithau yn gobeithio cyfarfod Mr Jones mor fuan â phosib er mwyn trafod economi Cymru a refferendwm ar fwy o bwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol.

"Fel mae David Cameron a finnau wedi nodi eisoes, fe fyddwn yn symud ymlaen ar gyfer trefniadau ynglŷn â refferendwm ar fwy o bwerau fel y gofynnodd Llywodraeth y Cynulliad.

"Mater i bobl Cymru fydd hi wedyn."

Yn y cyfamser bu'r cabinet newydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ddydd Iau.

Ar frig yr agenda yr oedd y ddyled anferth sydd gan y wlad.

Eisoes, mae yna addewid i fynd i'r afael a'r sefyllfa'n syth trwy wneud arbedion o £6 biliwn yn y sector gyhoeddus eleni.

Yn ystod y dydd cyhoeddwyd mai David Jones, AC Gorllewin Clwyd, fydd dirprwy Cheryl Gillan.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific