British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 13 Mai 2010, 12:09 GMT 13:09 UK
Cyfarfod cyntaf o'r Cabinet

Cabinet Llywodraeth Prydain
Aelodau llawn cabinet David Cameron

Mae cabinet newydd Llywodraeth Prydain wedi cyfarfod am y tro cyntaf.

Ar frig yr agenda yr oedd y ddyled anferth sydd gan y wlad.

Eisoes, mae yna addewid i fynd i'r afael a'r sefyllfa'n syth trwy wneud arbedion o £6 biliwn yn y sector gyhoeddus eleni.

Y Prif Weinidog David Cameron oedd yn llywio'r cyfarfod bore dydd Iau.

Mae 'na 18 aelod Ceidwadol a phum aelod Democrat Rhyddfrydol o amgylch y bwrdd.

Yn ogystal â thrafod manylion y cynllun i arbed arian yn y sector gyhoeddus mae disgwyl i weddill gweinidogion y Llywodraeth gael eu penodi yn ystod y dydd.

Fe fydd yn cynnwys sawl Democrat Rhyddfrydol.

Fe ddylai enwau'r rhai fydd yn helpu Cheryl Gillan yn ei rôl newydd fel Ysgrifennydd Cymru fod yn wybyddus yn yr oriau nesaf.

Ac mae'r gwaith i'r Ysgrifennydd Tramor newydd yn dechrau'n syth.

Fe fydd William Hague yn hedfan i Washington i gwrdd â swyddogion Llywodraeth America.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific