Gallai ysgolion uno a chau yn ardal Y Bala
|
Mae cyngor wedi argymell y dylid sefydlu ysgol gydol oes yn Y Bala fel rhan o gynlluniau Cyngor Gwynedd i ad-drefnu addysg gynradd. Y bwriad yw cau Ysgol Gynradd y Parc a chreu ysgol gydol oes ar gyfer plant rhwng tair oed ac 18 oed. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'r argymhellion. Ym mis Ebrill 2008 fe fabwysiadodd cynghorwyr Gwynedd strategaeth newydd ar gyfer ad-drefnu ysgolion cynradd. Mae'r strategaeth wedi nodi meini prawf allweddol fydd yn sail adolygu darpariaeth addysg gynradd fesul dalgylch. Argymhellion Eisoes mae Arweinydd Portffolio Addysg y cyngor, Liz Savill Roberts, wedi cyflwyno'r argymhellion sy'n golygu: - sefydlu ysgol gydol oes rhwng tair ysgol tref Y Bala;
- cau Ysgol y Parc a'r dalgylch yn symud i Ysgol O M Edwards yn Llanuwchllyn;
- hybu penaethiaid Ysgol O M Edwards, Ysgol Bro Tryweryn ac Ysgol Ffridd-y-llyn i barhau i gydweithio gyda'i gilydd a chyda'r ysgol gydol oes newydd yn nhref Y Bala.
"Mae hwn yn gyfle gwirioneddol gyffrous i sefydlu canolfan addysg arloesol fydd yn cryfhau profiadau addysgol i holl blant cynradd ac uwchradd yn ardal Y Bala," meddai. Fe fyddai'r ysgol gydol oes yn golygu uno dwy ysgol gynradd Y Bala, Ysgol Bro Tegid ac Ysgol Beuno Sant, ag Ysgol Uwchradd y Berwyn. "O ran eu statws mi fyddan nhw'n cau ond rydan ni'n dal i edrych ar yr opsiynau o ran pa safle y byddwn yn ei ddefnyddio," meddai hi. Ond dywedodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith: "Mae'r atebion a argymhellir gan gynghorwyr Gwynedd yn waeth na'r hyn oedd yn cael ei gynnig gan y cyn arweinyddiaeth yng Ngwynedd ac a wrthodwyd gan yr etholwyr yn yr etholiad diwethaf. "Yr oedd y cyn arweinyddiaeth wedi rhoi sicrwydd am ddyfodol Ysgol y Parc. "Rwan mae gyda ni arweinyddiaeth newydd sydd am danseilio cymuned fywiog Gymraeg." Mae'r cyngor wedi dweud bod "effaith bosib ar yr iaith Gymraeg ac ar gymunedau'r ardal" wedi cael ei hystyried a bod y casgliadau yn helpu penderfynu sut i ddatblygu addysg fyddai'n diogelu'r iaith i'r dyfodol. 'Dim ond dechrau' Dywedodd y Cynghorydd Roberts: "Dim ond megis dechrau'r broses o ad-drefnu addysg yn ardal y Berwyn mae Cyngor Gwynedd ac rydan ni'n croesawu sylwadau gan unrhyw gyrff neu unigolion â diddordeb yn y mater. "Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i gefnogi cymunedau Cymreig. Dyna pam rydan ni'n cadw tair ysgol ar agor yn ardal y Berwyn, gan gynnwys un ysgol sydd gyda nifer o ddisgyblion sy'n llai na'r trothwy hunangynhaliadwyedd. "Dwi ddim yn credu bod Cymdeithas yr Iaith yn iawn i ddweud fod y sefyllfa yn wahanol yn ardal Y Parc o'i chymharu â 2008." Ni roddwyd unrhyw sicrwydd i Ysgol y Parc, meddai, yn ystod y broses ad-drefnu ysgolion ddiwethaf. Dechreuwyd ymgynghoriad i gau Ysgol y Parc yn ystod gwanwyn 2008, meddai. Ffurfiol Y cynnig bryd hynny oedd cau ysgolion Y Parc a Llawrybetws a sefydlu trefn gydweithio ffurfiol rhwng ysgolion O M Edwards, Ffridd-y-llyn a Bro Tryweryn. "Rydan ni hefyd yn gweld hyn (yr ad-drefnu) fel cyfle i wella adnodau'r llyfrgell neu'r adnoddau diwylliannol yn Y Bala," meddai'r Cynghorydd Roberts. "Mae'n gyfle i roi buddsoddiad cyffrous i mewn i dref Y Bala ... "Drwy ddatblygu'r cyfleusterau i addysg yn y dref, mae'n mynd i greu cyfleoedd ychwanegol i ysgolion o gwmpas y dref sy'n anfon eu plant i Ysgol Uwchradd Y Berwyn." Dywedodd fod 'na gyfle i wella adnoddau ysgolion cynradd y dref. "O safbwynt addysgol mae'n gyfle i edrych ar rannu arbenigedd rhwng athrawon a dulliau dysgu athrawon ysgolion cynradd y dref ac arbenigedd athrawon uwchradd. "Y nod ... yw sicrhau bod plant yn pontio o'r cyfnod cynradd i uwchradd a gwella cyflawniad gwella profiadau addysgol fel rhan o'r broses." Mae'r awdurdod wedi awgrymu y dylai dalgylch Ysgol Y Parc newid ac y byddai'r plant yn mynd i Lanuwchllyn. Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno nos Fercher i Banel Adolygu Dalgylch Y Berwyn cyn y bydd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc y cyngor ar Fai 24.
|