British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 12 Mai 2010, 16:40 GMT 17:40 UK
Cytundeb newydd i gwmni teledu

Logo Uned 5
Wrth i raglen Uned 5 ddod i ben mae 'na ansicrwydd am swyddi

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd cwmni teledu Antena un o ddau gwmni sy'n cael cynnig cytundeb i gynhyrchu rhaglenni ar gyfer pobl ifanc i'r sianel.

Roedd y cwmni, sydd wedi ei leoli yng Nghaernarfon ac sy'n gyfrfiol am gyfres Uned 5, wedi anfon llythyrau "rhybudd o ddiswyddiadau" at dros 50 o staff.

Dywedodd Iestyn Garlick, un o gyfarwyddwr cwmni Antena, nad oedd gan y cwmni unrhyw waith ar y gweill ar ôl mis Mai pan ddaw Uned 5 i ben.

Ond yn ddiweddarach dydd Mercher daeth y cyhoeddiad y bydd Antena, ynghyd â chwmni teledu Rondo, yn cael cytundeb gwerth £7 miliwn dros y tair blynedd nesaf.

Daw'r penderfyniad yn dilyn proses dendr agored a chystadleuol.

'Newyddion gwych'

Fe fydd y ddau gwmni yn gyfrifol am raglenni

Wrth ymateb i gyhoeddiad S4C, dywedodd Mr Garlick: "Mae hyn yn newyddion da iawn i ni fel cwmni.

"Ond ar hyn o bryd rydym yn parhau i drafod a dydyn ni ddim yn gwbl si?r beth fydd y cyhoeddiad yn ei olygu i ni o ran swyddi.

"Fel cadeirydd Teledwyr Annibynnwyr Cymru mae hyn yn newyddion gwych i'r sector cyhoeddus yng ngogledd Cymru, gan ystyried y bydd S4C yn gwario £7 miliwn o bunnoedd yn ychwanegol."

Fe ddywedodd Robin Evans, Cadeirydd Rondo, bod y cyhoeddiad am y cytundeb yn newyddion da.

"Ond nid yn newyddion da yn unig i Rondo ond i'r diwydiant teledu yn y gogledd.

"Bydd y cytundeb sylweddol hwn, dros dair blynedd, yn ein galluogi fel cwmni i gynnal ymgyrch recriwtio gwirioneddol ym mhob agwedd o'r diwydiant - ym meysydd cynhyrchu, ysgrifennu golygu a'r ochr dechnegol."



HEFYD
Swyddi teledu dan fygythiad
12 Mai 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific