British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 12 Mai 2010, 20:04 GMT 21:04 UK
Westlife yn agor 10fed Gwyl Y Faenol

Westlife
Dyma fydd ail berfformiad y band o Iwerddon

Fe fydd 10fed Ŵyl y Faenol yn ddathliad o 10 mlynedd o berfformiadau o safon rhyngwladol ac â strwythur newydd, yn ôl y trefnwyr.

Dros benwythnos Gŵyl y Banc ym mis Awst fe fydd y band o Iwerddon, Westlife, yn dychwelyd i Stad Y Faenol i agor y penwythnos.

Yn ogystal bydd sêr y byd opera, Hayley Westrena, Rhydian Roberts, a nifer o fandiau Cymraeg a Saesneg yn perfformio yno.

Chafodd yr ŵyl ddim ei chynnal y llynedd oherwydd tywydd gwael arweiniodd at golledion ariannol yn 2008 a methu denu artistiaid penodol.

Ond ar ôl i ymddiriedolaeth yr ŵyl sicrhau cytundeb hir dymor gyda hyrwyddwyr newydd, Universal Music Classical Management & Productions (UMCMP), fe fydd y 10fed ŵyl yn mynd ymlaen gydag artistiaid amrywiol a strwythur newydd i'r ŵyl yn ôl y trefnwyr.

'Bythgofiadwy'

Wrth gyhoeddi'r artisitaid ddydd Mercher dywedodd Bryn Terfel y bydd yr ŵyl yn ddathliad o'r 10 mlynedd diwethaf yn ogystal â chael golwg newydd er mwyn diogelu'r dyfodol.

"Mae 'na artisitaid yn dychwelyd yma sydd wedi hudo cynulleidfaoedd a fu yma dros y 10 mlynedd diwethaf," meddai.

Cynulleidfa Y Faenol
Rhai o'r miloedd sydd wedi bod yn Y Faenol yn y gorffennol

"Dwi'n edrych ymlaen i groesawu pobl yma o bob cwr o'r DU i fy rhan i o Gymru a gobeithio y cawn ni benwythnos bythgofiadwy."

Westlife fydd yn cychwyn y gweithgareddau ar nos Wener Awst 27.

Nhw oedd un o'r artisitaid mwya llwyddiannus a phoblogaidd gafwyd yn y gorffennol ac fe fyddan nhw'n perfformio yn Y Faenol ar ddiwedd eu taith o gwmpas y DU.

Ar y nos Sadwrn y bydd yr Gala Operatig gyda Bryn Terfel ei hun a'r tenor Rolando Villazon, Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru o dan arweiniad Gareth Jones, y soprano Sylvia Schwarts a'r mezzo Ruxandra Donose.

Bydd y noson Gymreig, noson Tân y Ddraig, eleni ar y nos Sul.

Dathliad

Bydd gwedd newydd i'r noson a fydd yn cynnwys rhai o fandiau amlyca Cymru ochr yn ochr â rhai o fandiau Saesneg Prydain.

Mae'r ŵyl yn awyddus i adlewyrchu ceroddoriaeth Gymraeg mewn cyd-destun ehangach.

Bydd y band lleol o Lanberis Yr Ods, Masters in France a Pete Lawrie o Gaerdydd yn perfformio ochr yn ochr a The Feeling, Shed Seven, Athlete a The Roads. Ar y dydd Llun fe fydd 'na ddau berfformiad wrth i'r gantores Hayley Westenra wneud ei hail ymddangosiad yn Y Faenol wrth i Rhydian wneud ei ymddangosiad cyntaf yno mewn digwyddiad arbennig yn y prynhawn.

gwyl Y Faenol
Chafodd yr ŵyl ddim ei chynnal y llynedd

Fe fydd Band Canolog y Llu Awyr yn rhan o Gyngerdd 70 mlynedd Brwydr Prydain.

I gloi'r penwythnos nos Lun fe fydd comedi yn cael lle amlwg ar y llwyfan am y tro cyntaf gyda pherfformiad gan Al Murray.

Bydd Ed Byrne, Lloyd Langfrod, Milton Jones a Tudur Owen yn ymuno gydag ef.

Mae Ymddiriedolaeth Gŵyl y Faenol, Bryn Terfel ac UMCMP yn ddiolchgar i Gyngor Gwynedd am gefnogi'r ŵyl eleni.

Fe fydd y tocynnau ar gael o 9am ddydd Iau Mai 13 o wefan yr ŵyl neu Venue Cymru, Galeri Caernarfon neu gwmni gwyliau Silver Star. Ac am y tro cyntaf bydd modd eu harchebu o Ganolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd. Ar y nos Sul a nos Lun fe fydd 'na bolisi na fydd modd mynd ag alcohol i'r maes. Mae manylion llawn y polisi ar y wefan.



HEFYD
Gwyl y Faenol i'w chynnal eleni
28 Ebr 10 |  Newyddion
Cheryl Cole i ganu yn y Faenol
26 Ebr 10 |  Newyddion
Diwedd y gn yw'r geiniog
18 Meh 09 |  Newyddion
Boyzone yn agor Gwyl y Faenol
06 Maw 08 |  Newyddion
Cais i ddenu'r 'digwyddiadau mawr'
07 Ebr 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific