Fe fydd y llyfrgell newydd ym Margoed yn cynnwys lle i addoli
|
Ymhlith atyniadau a fydd yn derbyn arian er mwyn eu haddasu y mae capel ym Margoed. Fe wnaeth Llywodraeth y Cynulliad gyhoeddi gwerth £4 miliwn o grantiau ar gyfer llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau Cymru. Y bwriad yn ôl Alun Ffred Jones, Gweinidog Treftadaeth Cymru, yw datblygu gwaith llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau. Fe fydd yr arian yn cynnal amrywiaeth o gynlluniau, o foderneiddio adeiladau llyfrgelloedd cyhoeddus i gynorthwyo amgueddfeydd bach sy'n cael eu rheoli gan wirfoddolwyr. Un o'r prosiectau mwyaf arloesol yw ailddatblygu Capel Bedyddwyr Hanbury Road ym Margoed. Mae'r adeilad Gradd II yn mynd i gael ei addasu yn llyfrgell newydd a chanolfan wybodaeth Cwsmeriaid yn Gyntaf yn ogystal â pharhau i fod yn lle o addoliad. 'Diogelu'n cyfoeth' "Rwy'n falch o gyhoeddi'r buddsoddiad yma a fydd yn ei gwneud yn haws i'r cyhoedd gael mynediad at gasgliadau cyfoethog ein hamgueddfeydd, ein harchifau a'n llyfrgelloedd lleol," meddai Mr Jones. "Pobl sydd wrth wraidd ein gweledigaeth ar gyfer diogelu'r cyfoeth o hanes sydd gennym i ymfalchïo ynddo.
Mae gobaith y bydd y buddsoddiad yn rhoi hwn i lyfrgelloedd
|
"Bydd y grantiau hyn yn helpu amgueddfeydd ac archifau ar draws y wlad i wella'u gwaith o ddiogelu ac arddangos ein treftadaeth drwy waith cadwraeth a datblygu arddangosfeydd, adnoddau ar-lein a gweithgareddau addysg newydd a fydd yn dod â'r casgliadau yn fyw ar gyfer cenhedlaeth newydd. "Rhan annatod o'r buddsoddiad hwn yw moderneiddio'n llyfrgelloedd cyhoeddus er mwyn iddynt apelio at gynulleidfaoedd newydd drwy gynnig amgylchedd deniadol modern â gwasanaethau technoleg gwybodaeth newydd fel gwasanaeth di-wifr ochr yn ochr â'r hen ffefryn, sef y llyfrau. "Bydd y grantiau hefyd yn gymorth i ddatblygu partneriaethau rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus, llyfrgelloedd yn y gweithle a llyfrgelloedd academaidd mewn pedwar rhanbarth ar draws Cymru." Bydd grantiau gwerth tua £3 miliwn yn helpu i foderneiddio 12 llyfrgell gyhoeddus yn ystod 2010/11, yng Nglyn-nedd; Y Bont-faen; Y Rhyl; Tywyn; Rhiwabon; Llangefni; Bargoed; Aberystwyth; Llandudno; Pont-y-pŵl; Ton Pentre a'r Tyllgoed yng Nghaerdydd. Bydd tua £400,000 i roi grantiau a chyllid i amgueddfeydd lleol ledled Cymru. Mae'r grantiau eraill yn cynnwys: £36,000 i ddatblygu gwaith addysgol ar draws y pedwar awdurdod addysg yn y De-orllewin - Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro ac Abertawe. Cadwraeth Cymorth i Gastell Bodelwyddan wella dealltwriaeth ymwelwyr o'i ffosydd ymarfer o'r Rhyfel Byd Cyntaf a gwella'r mynediad iddynt. Bydd Amgueddfa Werin Brynbuga, sy'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr, yn cael arian i brynu model buwch o lawn faint y mae modd ei godro ar gyfer digwyddiadau addysg i adlewyrchu'r dreftadaeth ffermio bwysig. Mae cadwraeth a digido yn themâu canolog ar gyfer nifer o'r prosiectau archif a ariennir ac mae dros £50,000 wedi'i nodi ar gyfer prosiect Cymru o dan arweiniad Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru sy'n cynnwys paratoi cynllun busnes a chais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri i ddigido Mapiau Degwm Cymru a'u darparu ar-lein. Bydd Swyddfa Cofnodion Sir y Fflint yn cael dros £17,000 i gadw a digido cofnodion chwarter-sesiwn, a bydd Swyddfa Cofnodion Gorllewin Morgannwg yn cael £15,450 i gadw cynlluniau Gweithfeydd Haearn Mynachlog Nedd a'u rhoi ar gael i'r cyhoedd.
|