British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 12 Mai 2010, 08:33 GMT 09:33 UK
CarwynJones eisiau cyfarfod buan David Cameron

Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones am "frwydro dros fuddiannau Cymru".

Mae Prif Weinidog Cymru,Carwyn Jones, wedi galw am gyfarfod buan gyda David Cameron gan ei fod eisiau sefydlu "perthynas adeiladol" rhwng llywodraeth y Cynulliad a'r weinyddiaeth newydd yn San Steffan.

Cadarnhaodd Mr Jones y byddai'n brwydro'n galed i sicrhau y byddai "blaenoriaethau pobl Cymru'n dod yn gyntaf" a galwodd ar Mr Cameron am gyfarfod yn y dyfodol agos er mwyn sefydlu perthynas waith dda rhyngddynt.

"Hoffwn longyfarch David Cameron ar ddod yn Brif Weinidog ac rwy'n edrych ymlaen at greu perthynas adeiladol a phroffesiynol gyda llywodraeth y Deyrnas Uneig".

Mae'r ffaith mai'r Torïaid sydd bellach wrth y llyw yn San Steffan gyda chymorth y Democratiaid Rhyddfrydol yn creu sefyllfa wleidyddol ddiddorol gan mai clymblaid Lafur a Phlaid Cymru sydd mewn grym ym Mae Caerdydd.

Ychwanegodd Carwyn Jones: "Fy mlaenoriaeth i yw arwain Cymru a brwydro dros fuddiannau Cymru yn economaidd,yn gymdeithasol ac yn gyfansoddiadol - pwy bynnag sy'n byw yn rhif 10 Downing Street".

Ers i'r Blaid Lafur ildio awenau grym yn Llundain Carwyn Jones yw gwleidydd mwyaf pwerus Llafur yn y DU.

Plaid Cymru

Elfyn Llwyd
Elfyn Llwyd yn honni y bydd "gostyngiad pellach o 300 miliwn yn y gyllideb Gymreig eleni"

Dywedodd Plaid Cymru bod Llafur "wedi cyflwyno awenau llywodraeth y DU" i'r Ceidwadwyr.

Mynnodd arweinydd y blaid yn San Steffan, Elfyn Llwyd bod "Llafur Llundain wedi gwegian yn llwyr o dan y pwysau" ac y byddai'r Torïaid yn "gwneud eu gwaethaf dros Gymru".

Ychwanegodd bod "y Ceidwadwyr wedi amlinellu eu cynlluniau fydd yn cael effaith ofnadwy ar economi Cymru ac y gallai hynny arwain at ostyngiad pellach o £300 miliwn yn y gyllideb Gymreig eleni".

Yn siarad ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru fore Mercher dywedodd Aelod Seneddol newydd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards y gall y ffaith bod llywodraeth glymbleidiol rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Ceiedwadol achosi trafferthion i lywodraeth Llafur a Phlaid Cymru ym Mae Caerdydd

"Mae na botensial nawr am broblemau cyfansoddiadol wrth gwrs" meddai.

" Mae gyda San Steffan 'veto' dros y meysydd mae llywodraeth Cymru am ddatganoli er mwyn deddfu, a beth fydd yn digwydd nawr, bydd y rhan fwyaf ar y pwyllgor dethol Cymreig o'r gwrthbleidiau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae na botensial enfawr dwi'n credu am broblemau cyfansoddiadol oherwydd hynny".




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific