British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 12 Mai 2010, 19:11 GMT 20:11 UK
David Miliband i geisio olynu Gordon Brown fel arweinydd Llafur

David Miliband
Mae Mr Miliband yn "wleidydd rhyfeddol"

Mae'r cyn-Ysgrifennydd Tramor, David Miliband, wedi cyhoeddi y bydd yn ceisio olynu Gordon Brown fel arweinydd Llafur.

Eisoes mae'r cyn Ysgrifennydd Cartref, Alan Johnson, wedi cyhoeddi y bydd yn cefnogi Mr Miliband gan ei fod yn "wleidydd rhyfeddol".

David Miliband yw dewis Aelod Seneddol Alun a Glannau Dyfrdwy, Mark Tami ac AS Delyn, David Hanson, hefyd.

Does yr un aelod arall o'r Blaid Lafur wedi cynnig eu henwau.

Enwau eraill allai ymuno yn y ras yw Ed Balls, y cyn Ysgrifennydd Addysg a chyfaill agos i Gordon Brown; Ed Miliband sy'n frawd i David ac Alistair Darling y cyn-Ganghellor.

Mae gan y cyn-Ysgrifennydd Iechyd Andy Burnham a chyn-ymgynghorydd Tony Blair, John Cruddas, eu hedmygwyr hefyd.

Dim Harman

Serch hynny mae Dirprwy Arweinydd y Blaid Lafur, Harriet Harman, fel Alan Johnson, wedi cyhoeddi na fydd hi'n ymgeisio am swydd yr arweinydd.

Alan Johnson
Alan Johnson am gefnogi David Miliband

Hi ar hyn o bryd sy'n arain y blaid dros dro wedi ymddiswyddiad Gordon Brown ddydd Llun.

"Dirprwy ydw i a dyna dwi am fod," oedd ei hymateb.

Dywedodd cyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, nad oes ganddo "unrhyw fwriad" i ymgeisio am y swydd chwaith.

Am y tro cyntaf ers 1994 felly, bydd cystadleuaeth am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

Yn ôl yn 2007 methodd unrhyw ymgeisydd arall i ennill digon o gefnogaeth i herio Gordon Brown.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific