British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 11 Mai 2010, 18:56 GMT 19:56 UK
Brown yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog

Gordon Brown: 'Diolch a hwyl fawr'

Mae Gordon Brown wedi cyhoeddi ei ymddiswyddiad fel Prif Weinidog.

Aeth i Balas Buckingham i ymweld â'r Frenhines ac i ymddiswyddo yn ffurfiol.

Bu yno am lai na hanner awr.

Daw'r cyhoeddiad wrth i drafodaethau rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol ddod i ben yn Swyddfeydd y Cabinet yn Llundain.

Bydd cyhoeddiad Mr Brown yn caniatáu i'r ddwy blaid lunio llywodraeth.

Harriet Harman yw arweinydd dros dro y Blaid Lafur.

Daw'r cyhoeddiad 26 awr ar ôl i Mr Brown gyhoeddi ei fod yn bwriadu ildio awenau arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

'Anrhydedd'

Daeth staff Mr Brown allan o Rif 11 Downing Street funudau cyn i Mr Brown ddod allan yng nghwmni ei wraig Sarah.

Dywedodd bod hi wedi bod yn "anrhydedd" bod yn brif weinidog a'i fod yn dymuno'r gorau i'w olynnydd.

Mewn araith emosiynnol y tu allan i Rif 10 dywedodd ei fod wedi "caru'r swydd" a'i bod wedi bod yn "anrhydedd gwasanaethu".

"Dwi wedi caru'r swydd oherwydd y potential i wneud y wlad dwi'n ei charu yn degcahc, yn fwy goddefgar, yn fwy gwyrdd, yn fwy democrataidd, yn fwy llewyrchus.....

"...Dwi wedi ceisio fy ngorau i wasanaethu i wneud y gorau er budd Prydain, ei gwerthoedd a'i phobl.

"Rwy'n dymuno'r gorau i'r olynnydd wrth iddo orfod gwneud penderfyniadau anodd ar gyfer y dyfodol."

Gadawodd yng nghwmni ei wraig a'u meibion, John a Fraser, gan ddweud "diolch yn fawr a hwyl fawr".

Wrth wneud y cyhoeddiad dywedodd Mr Brown ei fod yn bwriadu awgrymu wrth y Frenhines y dylai wahodd David Cameron i lunio llywodraeth.

Wedi 10 mlynedd fel Canghellor a thair wedyn fel Prif Weinidog mae cyfnod Mr Brown yn Downing Street wedi dod i ben.

Ar ôl gadael Palas Buckingham aeth i weld aelodau'r blaid a'i gefnogwyr ym mhencadlys y Blaid Lafur.

Dydd Llun dywedodd Mr Brown ei fod yn bwriadu ildio arweinyddiaeth ei blaid ond y byddai'n parhau yn brif weinidog dros dro petai modd i'r Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol lunio llywodraeth.

Daeth trafodaethau rhwng y Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol i ben yn gynharach ddydd Mawrth.

Cyn gwneud y cyhoeddiad roedd Mr Brown wedi ymgynghori gyda'i wraig, Sarah, a'i gyd-weithwyr oedd yn cynnwys yr Arglwydd Mandelson, Douglas Alexander, Ed Balls ac Ed Miliband.

Roedd o hefyd wedi siarad gyda'i ragflaenydd Tony Blair ar y ffôn.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific