British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 11 Mai 2010, 22:45 GMT 23:45 UK
David Cameron yn Brif Weinidog

David Cameron a'r Frenhines

David Cameron ydi Prif Weinidog newydd Prydain.

Wedi ymddiswyddiad Gordon Brown fe aeth Mr Cameron i Balas Buckingham i gyfarfod y Frenhines.

Fe wnaeth Mr Cameron, 43 oed, ymweld â'r Palas yng nghwmni ei wraig Samantha.

Mr Cameron ydi'r Prif Weinidog ieuengaf ers 1812.

Wedi gadael Palas Buckingham fe wnaeth Mr a Mrs Cameron ddychwelyd i Downing Street lle'r oedd aelodau o'i staff yn disgwyl amdano.

'Clymblaid lawn'

Bydd yn ffurfio "clymblaid lawn" gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol, meddai.

Dyma'r glymblaid gyntaf i lywodraethu'r Deyrnas Unedig ers 70 mlynedd a'r glymblaid gyntaf rhwng y ddwy blaid hon ar lefel y DU.

Dywedodd bod dyddiau gorau'r Deyrnas Unedig eto i ddod.

Mae am ailadeiladu ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth, meddai, ac addawodd bod yn "onest am beth y gall llywodraeth gyflawni" ac i ffurfio "cymdeithas fwy cyfrifol".

Yn ôl golygydd gwleidyddol y BBC, Nick Robinson: "Roedd defnydd cyson Mr Cameron o'r gair 'anodd' yn pwysleisio bod penderfyniadau anodd i ddod a bod y Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn wynebu anawsterau wrth sefydlu clymblaid fydd yn llwyddo".

'Adeiladol'

Ymatebodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones i'r penodiad: "Fy mwriad yw cael perthynas waith adeiladol gyda'r llywodraeth newydd.

"Fel Prif Weinidog Cymru, fy ngwaith i yw arwain Cymru a dadlau dros Gymru - pwy bynnag sydd yn rhif 10 Stryd Downing - a dyna fydda i yn parhau i'w wneud."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Elfyn Llwyd, bod Llafur yn Llundain wedi disgyn o dan bwysau, ac y bydd llywodraeth Geidwadol nawr yn medru "gwneud ei gwaethaf" i economi Cymru o ganlyniad.

Bu aelodau etholedig ac arglwyddi'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cyfarfod nos Fawrth.

Cabinet

George Osborne o'r blaid Geidwadol fydd y Canghellor a William Hague fydd yr Ysgrifennydd Tramor.

Liam Fox fydd yr ysgrifennydd dros amddiffyn ac Andrew Lansley yn ysgrifennydd iechyd.

Mae Rhif 10 wedi cadarnhau bod Nick Clegg yn Ddirprwy Brif Weinidog ac y bydd pedwar aelod arall o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cabinet.

Mae'r BBC yn deall mai Danny Alexander o'r Democratiaid Rhyddfrydol fydd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cytuno i uchafswm ar fewnfudo ac ymrwyniad i beidio ag ymuno â'r Ewro yn y tymor seneddol hwn.

Mae disgwyl i'r cabinet newydd gyfarfod am y tro cyntaf ddydd Mercher.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific