British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 11 Mai 2010, 12:47 GMT 13:47 UK
Llifogydd: Angen llunio strategaeth

amddiffyn arfordir
Mae cymunedau angen arweiniad yn ôl y pwyllgor

Dydi erydiad arfordirol Cymru a llifogydd ddim yn cael y sylw haeddiannol gan Lywodraeth y Cynulliad yn ôl adroddiad.

Mae'r adroddiad gan bwyllgor o aelodau'r cynulliad hefyd yn galw am ragor o waith i amddiffyn yr arfordir.

Yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gallai cost y difrod o lifogydd godi yn sylweddol erbyn diwedd y ganrif.

Dywedodd y pwyllgor nad ydi'r cynllun a luniwyd yn 2007 yn ddigonol.

Maen nhw hefyd am fynd ymhellach na chasgliadau adroddiad y llynedd gan Swyddfa Archwilio Cymru..

Yn ôl Jonathan Morgan AC Ceidwadol a chadeirydd y pwyllgor mae angen "gweithredu brys".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad y bydd dros £42 miliwn yn cael ei wario yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf ar y broblem.

'Rhwystredigaeth'

Ychwanegodd bod y gwariant ar gyfer rheoli llifogydd ac atal erydu arfordirol yng Nghymru wedi mwy na threblu ers 1999.

Mae tua 60% o boblogaeth Cymru yn byw ger yr arfordir.

"Er ein bod wedi cael ein calonogi gan rai o'r polisïau a'r opsiynau i warchod yr arfordir, mae'n rhwystredig clywed am y diffyg o ran eu cyflwyno," meddai Mr Morgan.

Eglurodd bod sefydliadau ar draws Cymru yn aros i gael "arweiniad gan y llywodraeth".

"All pobl ar wastadeddau Gwent, yng Ngheredigion ac arfordir y gogledd ddwyrain ddim aros a gwylio'r dŵr yn codi a chyrraedd eu cartrefi a'u busnesau, maen nhw angen gwybod be sy'n mynd ymlaen nawr."

Dywedodd adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol y llynedd bod angen "ail-feddwl dramatig".

Ymhlith yr ardaloedd yn yr adran risg uchel mae'r arfordir rhwng Bae Cinmel a Llandudno, Tywyn yng Ngwynedd, Aberaeron, Aberystwyth a'r Borth yng Ngheredigion a Gwastadeddau Gwent.

Yn ôl yr adroddiad diweddara ychydig iawn o symud ymlaen sydd wedi bod er gwaetha addewidion gan y llywodraeth i gyflwyno strategaeth.

Mae disgwyl i Lywodraeth y Cynulliad gyflwyno strategaeth drafft yn fuan.



HEFYD
Llifogydd: 'Dim modd rhoi sicrwydd'
29 Hyd 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific