British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 11 Mai 2010, 09:35 GMT 10:35 UK
Amser penderfynu medd Cameron

David Cameron
Amser i'r Democratiaid Rhyddfrydol "wneud penderfyniad" medd David Cameron

Dywedodd David Cameron ei bod hi'n amser i'r Democratiaid Rhyddfrydol "wneud penderfyniad" ynghlyn â pha blaid gaiff eu cefnogaeth i lunio llywodraeth.

Enillodd y Ceidwadwyr y nifer mwyaf o seddi ond gan nad oedd ganddyn nhw fwyafrif clir fe ofynnon nhw i'r Democratiaid Rhyddfrydol am eu cefnogaeth.

Serch hynny,ddydd Llun,cynhaliwyd trafodaethau swyddogol rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur,unwaith i Gordon Brown gyhoeddi ei fod am ymddiswyddo fel arweinydd.

Daeth y cyfarfod hwnnw i ben amser cinio, gydag Ed Miliband ar ran Llafur yn eu disgrifio fel "trafodaethau da".

Cyhoeddodd Nick Clegg ei fod yn "obeithiol" y byddai penderfyniad yn cael ei wneud erbyn nos Fawrth a chynyddwyd y pwysau arno i wneud hynny gan Arweinydd y Ceidwadwyr David Cameron, pan ddywedodd fore Mawrth ei bod hi'n "amser i'r Democratiaid benderfynu a gobeithio y byddan nhw'n gwneud y penderfyniad cywir fydd yn cynnig llywodraeth gref a sefydlog i'r wlad a hynny'n fuan".

Enfys

Os nad yw'r Democratiaid yn llwyddo dod i drefniant ffurfiol efo'r Torïaid na'r Blaid Lafur mae posibilrwydd iddyn nhw ffurfio "clymblaid yr enfys" gyda Llafur a chenedlaetholwyr yr Alban a Chymru".

Nid dyma hoff opsiwn Simon Hughes sy'n ffigwr amlwg efo'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Elfyn Llwyd
Ni fydd clymblaid sy'n cynnwys Plaid Cymru medd Elfyn Llwyd

Dywedodd wrth wasaneth radio'r BBC ei fod yn disgwyl i'w blaid ffurfio llywodraeth "naill ai gyda'r Ceidwadwyr neu'r Blaid Lafur".

Wfftiodd Elfyn Llwyd ar ran Plaid Cymru y syniad o glymblaid ehangach gan bwysleisio y byddai ei blaid yn "dod i gytundeb ar faterion unigol er lles Cymru".




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific