British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 11 Mai 2010, 08:17 GMT 09:17 UK
Y ras i olynnu Gordon Brown

Ras geffylau
Mae'r ras i olynnu Gordon Brown ar ddechrau

Wedi i Gordon Brown gyhoeddi ddydd Llun ei fod am ildio awenau'r Blaid Lafur yn yr Hydref - pwy fydd yr arweinydd newydd?

Cynhaliwyd cyfarfod o'r cabinet nos Lun ac er mai trafodaethau ynglŷn â'r posibilrwydd o ffurfio clymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol fyddai wedi bod ar frig yr agenda, mae'n siwr bod ambell unigolyn wedi bod yn llygadu'r posibilrwydd o lenwi esgidiau Gordon Brown.

Yn ôl y bwcis,yr Ysgrifennydd Tramor presennol David Miliband yw'r ffefryn gydag Ed Balls,yr Ysgrifennydd Addysg a chyfaill agos i Gordon Brown yn dynn ar ei sodlau.

Enwau eraill allai ymuno yn y ras yw Ed Miliband, brawd David wrth gwrs ac Alistair Darling y Canghellor presennol.

Mae'r Ysgrifennydd Cartref Alan Johnson yn boblogaidd o fewn y blaid ac mae gan yr Ysgrifennydd Iechyd Andy Burnham a chyn ymgynghorydd Tony Blair, John Cruddas eu hedmygwyr hefyd.

Dim Harman

Serch hynny mae Dirprwy Arweinydd y blaid Lafur Harriet Harman wedi cyhoeddi na fydd hi'n ymgeisio am swydd yr arweinydd.

"Dirprwy ydw i a dyna dwi am fod" oedd ei hymateb.

Gordon Brown
Mae Gordon Brown wedi arwain y Blaid Lafur ers 2007

Mae'r BBC yn deall na fydd yr un o'r ymgeiswyr posib yn lansio ymgyrch hyd nes bod unrhyw gytundeb yn ei le ynglŷn â'r trafodaethau llywodraethol rhwng y prif bleidiau.

Am y tro cyntaf er 1994 felly, bydd cystadleuaeth am arweinyddiaeth y blaid Lafur.

Yn ôl yn 2007 methodd unrhyw ymgeisydd arall i ennill digon o gefnogaeth i herio Gordon Brown.

Mae'r ras ar fin dechrau ac mae hi'n argoeli i fod yn dipyn o ras.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific