British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 11 Mai 2010, 06:54 GMT 07:54 UK
Baner Las: Hwb i dwristiaeth?

Traeth y Borth, Ceredigion
Mwy o draethau nag erioed i dderbyn y Faner Las

Mae mwy o draethau nag erioed yng Nghymru wedi cael eu gwobrwyo gyda'r Faner Las eleni.

Cafodd 45 o draethau a phum marina y wobr, sy'n cael ei rhoi fel cydnabyddiaeth o safon ryngwladol.

Dywed elusen Cadw Cymru'n Daclus y gallai'r cyhoeddiad roi hwb mawr i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

Mae'r Faner Las yn barnu safon y dŵr ymdrochi, rheoli sbwriel, cyfleusterau a safonau diogelwch.

Sir Benfro sydd â'r nifer mwyaf yng Nghymru eleni, sef 13 ; yna Gwynedd sydd ag wyth, ac Ynys Môn sydd â saith.

Y llynedd llwyddodd 38 o draethau i sicrhau'r Faner Las.

Yn adennill eu lle yn y rhestr Baner Las eleni mae traethau Cefn Sidan (Penbre), Llandudno (Traeth y Gorllewin), Cricieth, Amroth, Aberllydan, Trefdraeth, a'r Bermo.

Fe wnaeth Gweinidog Amgylchedd Jane Davidson gyflwyno'r Faner Las i'r traethau llwyddiannus mewn seremoni ar draeth Ceinewydd yng Ngheredigion.

"Mae'r gwobrau'n dangos i bawb sy'n bwriadu ymweld â'r traeth yn ystod yr haf bod traethau Cymru'n gallu cystadlu â'r gorau yn Ewrop a thu hwnt," meddai Ms Davidson.

"Mae'r gwobrau hyn yn dyst i holl waith caled yr Awdurdodau Lleol a'r rheolwyr traethau ledled Cymru sy'n gwneud yn siŵr bod ein traethau a'n marinas yn bodloni safonau ansawdd dŵr Ewropeaidd llym.

" Mae'r rhain yn atyniadau mawr i dwristiaid ac yn destun balchder."

Bu seremoni arbennig yng Nghei Newydd, Ceredigion



HEFYD
Traethau sl: Haf gwael i'w feio
23 Mai 08 |  Newyddion
42 draeth yn derbyn y Faner Las
22 Mai 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific