British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 10 Mai 2010, 13:23 GMT 14:23 UK
Tori Cymreig o blaid y trafod

AS Maldwyn Glyn Davies
Glyn Davies yn fodlon cyfaddawdu

Mae Aelod Seneddol newydd Maldwyn o blaid y trafod rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr.

Dywedodd Glyn Davies wrth BBC Cymru bod angen i'r "ddwy blaid gyfaddawdu" gan mai'r flaenoriaeth yw cael "llywodraeth sefydlog i ddelio â'r problemau ariannol".

Er nad yw arweinydd ei blaid, David Cameron, am blygu i ofynion Nick Clegg ynglŷn ag ad-drefnu'r system etholiadol, dywedodd Glyn Davies ei "fod yn fodlon derbyn pethau dydw i ddim eisiau eu derbyn er mwyn sicrhau llywodraeth sefydlog".

Pe na byddai'r Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn llwyddo taro bargen yna byddai hynny'n agor y drws i'r Blaid Lafur ddod i gytundeb â Nick Clegg a'i blaid.

'Styfnig'

Er nad yw'r Democratiaid Rhyddfrydol yn awyddus i gadw Mr Brown yn Rhif 10 Stryd Downing fydd hi ddim yn fater hawdd symud y Prif Weinidog oddi yno yn ôl yr hanesydd gwleidyddol Deian Hopcyn.

Disgrifiodd Gordon Brown fel y "dyn mwyaf styfnig ar y blaned - ond efallai dyna'i gryfder!"

Awgrymodd hefyd ei fod yn "rhagweld etholiad arall yn yr Hydref".

Dywedodd Ieuan Wyn Jones ar ran Plaid Cymru y byddai'n "barod i drafod er lles Cymru" gydag unrhyw un o'r prif bleidiau os nad yw'r trafodaethau presennol yn dwyn ffrwyth".

Er bod Nick Clegg wedi datgan yr hoffai benderfynu'r naill ffordd neu'r llall ynglŷn â phartneriaeth efo'r Ceidwadwyr erbyn nos Lun, mae'r marchnadoedd ariannol wedi ymateb yn ffafriol.

Agorodd y marchnadoedd 1% yn uwch fore Llun.

Yn ôl Huw Elfed Jones sy'n newyddiadurwr ariannol efo cwmni Retuers, "cynnydd dros dro" yw hwn.

Pwysleisiodd bwysigrwydd gweinyddiaeth gadarn gan ei bod hi'n "haws benthyg o'r marchnadoedd ariannol os oes llywodraeth sefydlog".




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific