Roedd Llew ap Gwent yn fynyddwr profiadol. Llun: Evan Dobson
|
Mae AS Dwyfor Meirionnydd wedi rhoi teyrnged i'w gyfaill Llew ap Gwent a fu farw wrth fynydda yn Eryri. Dywed Elfyn Llwyd ei fod wedi byw yn yr un pentre - Llanuwchllyn - am 30 mlynedd a'i fod wedi cydweithio'n agos a'i gyfaill ar nifer o bwyllgorau a chymdeithasau lleol. "Doedd ond angen i chi ofyn i Llew ac mi fyddai'r gwaith yn cael ei wneud," meddai Mr Llwyd am y cyn brifathro. Roedd Mr ap Gwent , cyn brifathro Ysgol y Parc, ger Y Bala, yn rhan o grwp 'scramblo' pan syrthiodd tua 3pm ddydd Sadwrn. Dywedodd Mr Llwyd fod Llew ap Gwent yn fynyddwr profiadol oedd wedi arfer arwain grwpiau o bobl ar y mynyddoedd. "Mae'r hyn sy wedi digwydd yn sioc fawr, oherwydd ei fod o mor ofalus. "Mi fydd yna golled enfawr ar ei ôl." Dywed Heddlu'r Gogledd eu bod yn ymchwilio ar ol i ddyn 61 oed gwympo mwy na 300 o droedfeddi ar Gwm Cneifion yn Nyffryn Ogwen. Aed ag o i Ysbyty Gwynedd, Bangor, mewn hofrennydd ond fe gyhoeddwyd ei fod yn farw. Dyw'r heddlu heb ryddhau ei enw yn swyddogol.
|