British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 10 Mai 2010, 14:15 GMT 15:15 UK
San Steffan: Mwy o drafodaethau

Nick Clegg a David Cameron
Mae cynrychiolwyr y ddwy blaid yn cyfarfod

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol, sydd wedi bod yn trafod gyda'r Ceidwadwyr am y posibilrwydd o ffurfio llywodraeth, hefyd wedi cynnal trafodaethau gyda Llafur.

Bu'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cwrdd am dros chwe awr ddydd Sul, a bu cyfarfod preifat rhwng David Cameron a Nick Clegg.

Ond dywed Golygydd Gwleidyddol y BBC, Nick Robinson, ei fod wedi dod i'r amlwg fod cynrychiolwyr Mr Clegg hefyd wedi cwrdd â chynrychiolwyr Llafur oedd yn cynnwys Arglwydd Mandelson, Ed Balls a'r Arglwydd Adonis.

Dywed y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol fod eu trafodaethau "wedi dwyn ffrwyth".

Wrth adael y trafodaethau brynhawn Sul, cyn mynd i drafod gyda'u harweinwyr, dywedodd y cynrychiolwyr bod y trafodaethau wedi bod yn "rhai positif" a bod sefydlogrwydd economaidd yn ganolog.

'Cyfaddawdu'

Mae David Cameron yn gobeithio cael cefnogaeth Mr Clegg a'i blaid i lywodraethu.

Ond dywedodd bod hi'n "anochel y bydd rhaid cyfaddawdu".

Bydd Aelodau Seneddol Ceidwadol yn cwrdd am 6pm ddydd Llun i drafod y sefyllfa.

Mae ASau plaid Mr Clegg hefyd yn cyfarfod ddydd Llun yn ogystal â Phwyllgor Gweithredol y Democratiaid Rhyddfrydol.

Byddai angen i'r corff yma roi sêl bendith ar unrhyw gytundeb.

Y rhai sy'n trafod ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol ydi Danny Alexander, Chris Huhne, David Laws ac Andrew Stunnell.

Cynrychiolwyr y Ceidwadwyr ydi William Hague, George Osborne, Oliver Letwin ac Ed Llewellyn.

Dydd Sul cafodd Mr Brown a Mr Clegg gyfarfod yn Y Swyddfa Dramor.

Yn ôl adroddiadau roedd Mr Cameron yn ymwybodol o'r cyfarfod wyneb yn wyneb rhwng y ddau arweinydd a'u bod yn drafodaethau "cyfeillgar".

Fe wnaeth y Ceidwadwyr ennill y mwya o seddi yn yr etholiad ddydd Iau ond doedd y nifer ddim yn ddigon iddyn nhw lywodraethu heb gefnogaeth plaid arall neu lunio clymblaid.

Mae Mr Clegg wedi dweud y dylai'r Ceidwadwyr fel y blaid fwya gael y cyfle i geisio ffurfio llywodraeth.

Fe awgrymodd llefarydd y Torïaid ar ysgolion, Michael Gove, ei bod yn bosib na fyddai cytundeb yn gyfystyr a chlymblaid swyddogol.

Ond fe ddywedodd y byddai'n fodlon ildio'i sedd mewn cabinet i wneud lle i Ddemocrat Rhyddfrydol.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific