British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 9 Mai 2010, 15:46 GMT 16:46 UK
Senedd grog: Mwy o drafod

Nick Clegg a David Cameron
Mae cynrychiolwyr y ddwy blaid yn cyfarfod

Mae aelodau blaenllaw'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Geidwadol yn trafod ddydd Sul wedi i'r ddau arweinydd gynnal trafodaethau ddydd Sadwrn.

Mae'r BBC yn deall y bydd Aelodau Seneddol y Blaid Geidwadol yn cyfarfod am 6pm nos Lun.

Y disgwyl yw na fydd cyfarfod dydd Sul yn arwain at "setliad terfynol" ond y bydd datganiad yn cael ei ryddhau.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol fod Mr Clegg a Gordon Brown wedi trafod ar y ffôn nos Sadwrn a bod y sgwrs yn "gyfeillgar".

Yn y cyfamser, mae Mr Cameron wedi dweud wrth ei blaid fod "cyfaddawd yn anochel".

Dywedodd na fyddai'n cyfaddawdu yn y meysydd canlynol, Ewrop, mewnfudo ac amddiffyn, ond y gallai ildio tir wrth drafod cynllun y Democratiaid Rhyddfrydol i leihau trethi'r rhai ar gyflogau is.

326 o seddau

Yn y cyfamser mae Mr Brown yn ôl yn Downing Street ac wedi bod yn trafod y sefyllfa gyda rhai o aelodau seneddol Llafur amlwg.

Fe gafodd y Ceidwadwyr 306 o seddi, Llafur 258, y Democratiaid Rhyddfrydol 57, yr SNP 6, Plaid Cymru 3 a'r gweddill 19 yn yr etholiad.

Roedd angen 326 o seddau er mwyn cael mwyafrif clir.

Gordon Brown, David Cameron and Nck Clegg on election night
Chafodd yr un blaid fwyafrif clir i lywodraethu

Yng Nghymru dywedodd cynarweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol y gallai ei blaid daro bargen â'r Ceidwadwyr.

"Mae modd dod o hyd i atebion," meddai Mike German.

"A dweud y gwir, mae unrhywbeth yn bosib."

Ond mae'r AS Llafur, Paul Flynn, wedi proffwydo na fyddai'r Democratiaid yn taro bargen ag unrhyw blaid.

Fe ffurfiodd y Democratiaid glymblaid â Llafur yn y cynulliad rhwng 2000 a 2003 ond methiant oedd yr ymgais i daro bargen â phleidiau eraill ar ôl etholiad 2007.

Dydd Sadwrn dywedodd aelod blaenllaw o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig y gallai ei blaid fod yn rhan o lywodraeth heb daro bargen am ddiwygio etholiadol.

"Mae'n naïf meddwl bod rhaid cael cytundeb ar gynrychiolaeth gyfrannol," meddai'r Arglwydd Carlile.

Er bod y pwnc yn un allai fod yn rhan o'r trafodaethau, meddai cyn Aelod Seneddol Maldwyn, roedd angen i'w blaid "ystyried y darlun mawr".

'Y fargen orau'

Mae arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi dweud eu bod yn barod i drafod ag unrhyw blaid "er mwyn cael y fargen orau i Gymru".

Eisoes mae arweinydd yr SNP, Alex Salmond, wedi dweud na fydden nhw'n trafod â'r Ceidwadwyr.

Dywedodd Mr Jones mai un o'r telerau cyn taro bargen fyddai "fformiwla ariannu deg i Gymru".

"Rydan ni am i'r bregus gael eu hamddiffyn wrth i'r economi adfywio ... dyma'r math o drafodaethau y mae eu hangen fel y bydd gan bobl Cymru rywbeth i edrych ymlaen ato."

Mae Elfyn Llwyd, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi dweud: "Ar hyn o bryd rydan ni'n canolbwyntio ar drafod â Llafur."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific