British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 7 Mai 2010, 21:10 GMT 22:10 UK
Ffarwelio gwleidyddion

Wedi canlyniadau'r etholiad fe wnaeth pedwar person a fu'n aelodau seneddol golli eu seddi.

Fydd Lembit Opik, Julie Morgan, Nick Ainger na Dai Davies yn dychwelyd i San Steffan.

Lembit Opik

Lembit Opik
Lembit Opik

Bu'n cynrychioli Maldwyn ers 1997 ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol. Mae'n gymeriad lliwgar gyda'i fywyd personol wedi dominyddu penawdau'r papurau newydd. Collodd y sedd i'r Ceidwadwr Glyn Davies.

Cafodd ei eni yng Ngogledd Iwerddon gyda'i rieni yn dod o Estonia. Astudiodd athroniaeth ym Mhrifysgol Bryste.

Cyn mynd yn wleidydd bu'n rheolwr hyfforddi adnoddau dynol i gwmni Procter and Gamble.

Bu'n arweinydd ei blaid yng Nghymru.

Fe ymgeisiodd ar ran y blaid yn etholiad 1992 ac etholiadau Ewrop yn 1994. Mae hefyd yn gyn-gynghorydd sir yn Newcastle.

Julie Morgan

Julie Morgan
Julie Morgan

Yn wraig i gyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, bu Julie Morgan yn cynrychioli etholaeth Gogledd Caerdydd am 13 mlynedd ar ôl cipio'r sedd oddi ar y Blaid Geidwadol, yr union blaid a'i trechodd eleni. Jonathan Evans fydd yr aelod newydd.

Roedd hi wedi ymgeisio am y sedd yn 1992. Yn enedigol o'r brifddinas cafodd ei haddysg yno, yng Ngholeg y Brenin yn Llundain, Prifysgol Manceinion a Phrifysgol Caerdydd.

Gweithiodd i Gyngor Gorllewin Morgannwg fel gweithwraig gymdeithasol i wasanaethau Cymdeithasol Y Barri ac fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Plant elusen Barnado's.

Bu'n gynghorydd sir yn Ne Morgannwg ac yna Cyngor Caerdydd.

Nick Ainger

Nick Ainger
Nick Ainger

Mae Nick Ainger wedi bod yn aelod seneddol am 18 mlynedd. Cafodd ei ethol yn aelod dros Benfro yn 1992 ac yna yn aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro wedi newid ffiniau yn 2005.

Collodd y sedd i'r Ceidwadwr Simon Hart.

Mae o wedi dal nifer o swyddi yn y llywodraeth, is-ysgrifennydd Seneddol yn Swyddfa Cymru, Chwip Cymru ac is-ysgrifennydd i dri Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Cafodd ei eni yn Sheffield cyn symud i Sir Benfro i weithio yn y diwydiant olew tan iddo gael ei ethol yn 1992. Bu'n amlwg yn yr undebau llafur ac roedd yn gynghorydd sir yn Nyfed.

Dai Davies

Dai Davies
Dai Davies

Cafodd Dai Davies ei ethol yn aelod seneddol annibynnol Blaenau Gwent mewn isetholiad yn 2006 wedi marwolaeth Peter Law. Roedd Mr Davies yn asiant iddo.

Roedd hefyd yn asiant i'r cyn AS Llew Smith.

Cafodd ei eni a'i fagu yn yr etholaeth cyn gweithio am 26 mlynedd yn y diwydiant dur.

Mae sedd Blaenau Gwent, a fu yn nwylo Aneurin Bevan a Michael Foot, bellach wedi dychwelyd i fod yn sedd Llafur.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific