British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 7 Mai 2010, 17:13 GMT 18:13 UK
Menna Richards yn derbyn yr OBE

Menna Richards
Derbyniodd Menna Richards yr OBE yng Nghastell Windsor

Fe wnaeth Cyfarwyddwr BBC Cymru ganmol "talent greadigol" gweithwyr y gorfforaeth wrth iddi dderbyn yr OBE gan Y Frenhines.

Derbyniodd Menna Richards yr anrhydedd am wasanaeth i ddarlledu dros 30 mlynedd.

Eglurodd ei bod yn credu bod Cymru yn denu pobl eithriadol ar draws y diwydiant.

Dywedodd ei bod hefyd yn falch o dderbyn yr anrhydedd a gafodd ei gyflwyno gan Y Frenhines yng Nghastell Windsor.

"Dwi'n falch o dderbyn yr OBE am wasanaeth i ddarlledu," meddai'r cyfarwyddwr 57 oed.

"Dros y blynyddoedd mae hi wedi bod yn bleser gweld BBC Cymru yn datblygu i fod yn rym allweddol o fewn teledu yn y DU, yn bennaf o ganlyniad i lwyddiant Doctor Who.

Cyfrifoldeb

"Mae'n le arbennig i weithio ynddo a dwi'n cyfri fy hun yn ffodus iawn i gael cymaint o dalent greadigol o fy nghwmpas."

Bu'n Rheolwr BBC Cymru am naw mlynedd cyn cael ei phenodi yn Gyfarwyddwr ym mis Ebrill 2009.

Mae hi'n gyfrifol am holl wasanaeth Cymraeg a Saesneg y BBC yng Nghymru ar radio, teledu ac ar-lein.

Brian Fleet
Fe wnaeth Brian Fleet ymddeol o Airbus yn gynharach eleni

Cychwynnodd ei gyrfa yn y BBC fel newyddiadurwr.

Yna bu'n rheolwr gyfarwyddwr HTV Cymru cyn dychwelyd yn rheolwr i'r gorfforaeth yng Nghaerdydd.

O dan ei harweiniad mae BBC Cymru wedi dod yn ganolfan arbennig i gynhyrchu rhaglenni llwyddiannus Doctor Who, Torchwood, Tribe, The One Show a Chanwr y Byd Caerdydd.

"Mae talent yn denu talent," ychwanegodd y wraig a fagwyd ym Maesteg ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.

"Mae nifer wedi dod yma i weithio ar rywbeth penodol ac wedi aros yma."

Dydd Gwener hefyd derbyniodd Brian Fleet, cyn-brif swyddog Airbus ym Mhrydain, y CBE.

Fe wnaeth Mr Fleet, 54 oed, ymddeol ym mis Mawrth.

Cychwynnodd fel prentis yn y ffatri.

"Dwi'n falch iawn o dderbyn yr anrhydedd yma, nid yn unig i mi ond i bawb sy'n gweithio neu wedi gweithio i Airbus yn y DU."



HEFYD
Rhestr Anrhydeddau'r Cymry
31 Rhag 09 |  Newyddion
Anrhydeddau i ddwsinau o Gymry
31 Rhag 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific