Cafodd Glyn Davies ei ethol yn AS Maldwyn gan ddisodli Lembit Opik
|
Ar ôl i holl ganlyniadau Cymru gael eu cyhoeddi mae'r Blaid Geidwadol wedi llwyddo i ennill pum sedd ychwanegol yng Nghymru. Y rhain oedd sedd ymylol hollbwysig Bro Morgannwg, Aberconwy, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Gogledd Caerdydd a Maldwyn. Ledled Cymru y gogwydd oedd 5%. Hwn oedd eu perfformiad gorau yng Nghymru ers 1987. Mae'n debyg bod Plaid Lafur Cymru'n teimlo rhyddhad fore Gwener. Er bod eu mwyafrifoedd yn llai yn Wrecsam, Gŵyr, Alun a Glannau Dyfrdwy, fe lwyddon nhw i drechu'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Nwyrain Casnewydd, a Gorllewin Abertawe yn ogystal â Phlaid Cymru ar Ynys Môn. Eu camp fwyaf efallai oedd adennill Blaenau Gwent a threchu'r ymgeisydd Annibynnol, Dai Davies. Y broblem iddyn nhw yw bod eu canran o'r bleidlais wedi cwympo 7% sy'n golygu'r perfformiad gwaethaf ers 1918.
Fe lwyddodd y Blaid Lafur i gipio sedd Blaenau Gwent
|
Uchafbwynt y Democratiaid Rhyddfrydol oedd cynnydd mawr yn eu mwyafrif yng Ngheredigion, ar draul Plaid Cymru, ond roedd siomedigaeth yn eu seddau targed yng Ngorllewin Abertawe a Dwyrain Casnewydd ac roedd yr ergyd ym Maldwyn yn fawr. Roedd Plaid Cymru'n siomedig o ran ennill seddau. Methiant oedd eu hymgais i gipio Ynys Môn neu Lanelli. Dywedodd eu harweinydd, Ieuan Wyn Jones, mai'r rheswm pennaf oedd y ffaith nad oedden nhw'n rhan o'r dadleuon teledu Prif Weinigol ond roedd rhai yn y blaid yn dweud bod tystiolaeth ar garreg y drws fod cefnogwyr wedi pleidleisio i Lafur er mwyn sicrhau na fyddai'r Ceidwadwyr yn ennill.
|