British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 7 Mai 2010, 06:43 GMT 07:43 UK
Ípik yn colli Maldwyn

Mwy o fwyafrif i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion

Mae Lembit Öpik wedi colli sedd Maldwyn i'r Ceidwadwr Glyn Davies.

Roedd gan Mr Öpik fwyafrif o 7,173 yn 2005.

Dywedodd yr enillydd: "Y tîm enillodd yn yr etholaeth hon a dyna beth ddigwyddodd.

"A'r hyn wnes i oedd canolbwyntio ar y gwasanaethau cyhoeddus.

"Ar ôl yr hwb i'n plaid ni oherwydd y dadleuon teledu roedd rhaid cael gogwydd o 13%.

"Dyna ddigwyddodd ac roedd yn dipyn o syndod."

Dywedodd Mr Öpik, 45 oed, ei fod "wedi ei synnu" a'i fod "yn hynod o drist" ei fod am adael San Steffan.

"Rhaid llongyfarch fy ngwrthwynebydd - fe enillodd yn deg.

Lembit Opik
Ípik yn colli ei sedd ym Maldwyn

"Ond yng ngeiriau Arnie Schwarzenegger fe fydda i'n ôl".

Dywedodd Eleanor Burnham ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig fod y golled ym Maldwyn yn "ofnadwy o drist" gan fod Mr Öpik yn "bersonoliaeth lleol cryf sydd wedi gweithio'n galed".

A dywedodd O J Williams ar ran y Ceidwadwyr fod "Glyn yn haeddu'r fuddugoliaeth gan ei fod wedi trechu afiechyd ofnadwy ac mae'n uchel ei barch yn yr ardal".

Wedi i'r holl ganlyniadau ddod i law roedd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi llwyddo i ennill tair sedd - sef un yn llai nag yn etholiad 2005.

Llwyddodd Roger Williams i ddal ei afael ar sedd Brycheiniog a Maesyfed â 3,747 o fwyafrif dros Suzy Davies o'r Ceidwadwyr.

Yng Nghanol Caerdydd Jenny Willott o'r Democratiaid Rhyddfrydol enillodd â mwyafrif o 4,576.

Er gwaetha siom y Democratiaid ym Maldwyn llwyddodd eu hymgeisydd yng Ngheredigion, Mark Williams, i gynyddu ei fwyafrif i 8,324.

Wrth ymateb i lwyddiant Glyn Davies dywedodd O.J.Williams ar ran y Ceidwadwyr bod "Glyn yn haeddu'r fuddugoliaeth gan ei fod wedi trechu afiechyd ofnadwy ac mae'n uchel ei barch yn yr ardal".




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific