British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 7 Mai 2010, 07:09 GMT 08:09 UK
Ceidwadwyr yn ennill tir

Guto Bebb yn ennill yn Aberconwy

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ennill cyfanswm o wyth o seddi o'i gymharu â'r tair sedd enillon nhw yn 2005.

Aberconwy oedd y sedd gyntaf i'r Torïaid ei hennill yng Nghymru wrth i Guto Bebb ennill sedd yn San Steffan am y tro cyntaf.

Diolchodd i'r holl ymgeiswyr eraill am frwydr ddifyr ac hefyd i'w dîm etholiadol a'i wraig am eu cefnogaeth.

Addawodd y byddai'n "gweithio'n galed iawn dros holl etholwyr Aberconwy".

Roedd ganddo fwyafrif o 3,398 dros Ronald Hughes o'r Blaid Lafur.

Dywedodd fod y frwydr wedi ei hennill "o stryd i stryd o bentref i bentref a hynny drwy ymgyrch bositif".

'Newid byd'

Cyfaddefodd y byddai treulio cymaint o amser yn San Steffan yn"newid byd mawr" iddo a'i deulu gan ei fod yn briod ac yn dad i bump o blant.

"Ond dwi'n edrych ymlaen at yr her yn fawr," meddai.

Yn ôl y disgwyl, enillodd Alun Cairns sedd Bro Morgannwg i'r Ceidwadwyr hefyd gyda mwyafrif sylweddol. Cafodd dros 20,341 o bleidleisiau.

"Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill mor hawdd er bod ein hymgyrch wedi bod yn gadarnhaol iawn," meddai wedi'r cyfri' yn Y Barri.

"Dwi'n credu bod David Cameron yn cael ei dderbyn gan bobl Prydain bellach.

" Fe wylltiais wrth glywed Peter Mandelson yn awgrymu y gallai Llafur dal ffurfio llywodraeth.

"Dyna beth fyddai sarhad i drwch y boblogaeth," ychwanegodd.

Guto Bebb
Guto Bebb ar ei ffordd i San Steffan

Yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro roedd llwyddiant i'r Ceidwadwyr wrth i Simon Hart guro Nick Ainger o 3,423 a chynyddu canran pleidlais ei blaid o 9%.

Fe gyrhaeddodd canlyniad Gogledd Caerdydd am 5.14am, y canlyniad olaf yng Nghymru.

Cipiodd Jonathan Evans y sedd o afael Julie Morgan o'r Blaid Lafur o 194 o bleidleisiau, y mwyafrif Cymreig lleiaf yn yr etholiad.

Roedd ei ryddhad yn amlwg gan fod Mr Evans wedi colli etholiad o 56 pleidlais yn unig yn y gorffennol.

"Mae'n llawer gwell ennill etholiad na cholli," meddai.

Diolchodd i Mrs Morgan am ei "gwasanaeth diflino" i'r etholwyr.

"Mae wedi bod yn dasg anodd iawn ennill y sedd hon.

"Rydym wedi herio cynrychiolydd oedd yn boblogaidd iawn ac wedi llwyddo."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific