British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 7 Mai 2010, 07:01 GMT 08:01 UK
Plaid Cymru: 'Noson siomedig'

Plaid yn dal Dwyrain Caerfyrddin

Mae arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi dweud wrth BBC Cymru ei bod hi'n noson siomedig iawn i'w blaid.

Pwyntio'r bys at ddadleuon yr arweinwyr Prydeinig wnaeth Mr Jones wrth iddo ddweud yn gwbl bendant fod y rheiny wedi cael effaith negyddol iawn ar gefnogaeth Plaid Cymru mewn rhai ardaloedd.

Awgrymodd bod yr un peth yn wir am yr SNP yn Yr Alban.

Serch hynny yng nghanlyniad cynta'r noson o Gymru llwyddodd Hywel Williams i gipio sedd newydd Arfon gyda mwyafrif o 1,455 dros y Blaid Lafur.

Hywel Williams,Plaid Cymru
Hywel Williams yn diolch i'w gefnogwyr wedi ei fuddugoliaeth

Dywedodd ei fod yn ymrwymo ei hun i "weithio'n galed iawn dros yr holl etholaeth".

Llwyddodd Elfyn Llwyd i ddal ei afael ar sedd Dwyfor Meirionnydd â mwyafrif o 6,367 ac enillodd Jonathan Edwards sedd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr â mwyafrif o 3,481 er bod gostyngiad o 11% ym mhleidlais y blaid.

Enillodd Plaid Cymru dair sedd - sef yr un nifer â 2005 ond roedd Ieuan Wyn Jones wedi gobeithio am fwy na hynny.

Dywedodd yn blwmp ac yn blaen nad dyma'r math o "gamau breision" yr oedd yn gobeithio y byddai ei blaid wedi eu cymryd.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific