British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 7 Mai 2010, 09:49 GMT 10:49 UK
Hain yn galw am glymblaid

Peter Hain
Cameron wedi methu taro bargen Ô'r etholwyr, medd Hain

Mae Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, wedi galw am glymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol a allai gynnwys "trefniant ehangach" â Phlaid Cymru a'r SNP.

Dywedodd Mr Hain fod "cyfrifoldeb" ar ei blaid i sicrhau bod llywodraeth ac economi sefydlog yn y pedair gwlad.

"Dwi'n parhau yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac mae'r Prif Weinidog yn parhau'n Brif Weinidog cyn belled nad oes llywodraeth amgen yn cael ei ffurfio."

Dywedodd nad oedd David Cameron, arweinydd y Blaid Geidwadol, wedi "taro bargen â'r etholwyr na tharo deuddeg".

"Hoffwn i weld llywodraeth bartneriaeth", meddai.

"Mae mwyafrif clir yn y Senedd i weithredu'r diwygiadau gwleidyddol sylfaenol sydd eu hangen i ailadeiladu ymddiriedaeth rhwng y pleidleiswyr a'r gwleidyddion - a sicrhau bod yr adfywiad economaidd yn parhau ac osgoi'r toriadau llym a dwfn y mae'r Torïaid yn eu cynllunio.

"Mae Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cytuno ar hynny i gyd a dwi'n credu bod eraill, gan gynnwys cenedlaetholwyr, yn cytuno hefyd.

"Felly mae cyfle clir i ffurfio llywodraeth bartneriaeth flaengar yn hytrach nag un Dorïaidd adweithiol".




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific