British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 6 Mai 2010, 23:21 GMT 00:21 UK
Arolwg yn awgrymu Senedd grog

Cyfri' pleidleisiau
Y broses o gyfri'r pleidleisiau

Mae arolwg gafodd ei gyhoeddi wrth i'r gorsafoedd pleidleisio gau o bobl fu'n bwrw pleidlais yn awgrymu mai'r Ceidwadwyr fydd y blaid fwyaf yn y senedd newydd.

Casglwyd y wybodaeth mewn 130 o orsafoedd pleidleisio a'r awgrym clir yw'r ffaith mai senedd grog yw'r canlyniad mwyaf tebygol.

Yn ôl yr arolwg annibynnol a wnaed gan NOP a MORI ar ran y BBC, ITV a Sky bydd y Ceidwadwyr yn cipio cyfanswm o 305 o seddi (+95), gyda Llafur yn ennill 255 (-94), y Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill 61 (-1) a'r pleidiau eraill yn aros ar gyfanswm o 29 sedd.

Os yw'r ffigyrau yma'n gywir byddai'r Ceidwadwyr 21 sedd yn brin o fwyafrif clir.

Hyd yn oed pe byddai'r Ceidwadwyr yn digwydd ennill cwpl o seddi yng Ngogledd Iwerddon ac yn taro bargen efo plaid y DUP - ni fyddai hynny hyd yn oed yn ddigon i sicrhau mwyafrif clir iddyn nhw.

Troi cefn

Ond bydd yn rhaid aros rhai oriau i gael y canlyniadau cynta i weld pa mor gywir yw'r arolwg.

Wrth ymateb i ganlyniad yr arolwg dywedodd Peter Hain ar ran Llafur Cymru:

"Os nad yw'r Ceidwadwyr yn ennill mwyafrif clir - mae hynny'n profi nad yw David Cameron wedi taro bargen na tharo deuddeg efo'r etholwyr".

Taro yn ôl yn hyderus wnaeth Paul Davies ar ran y Torïaid Cymreig:

"Beth sy'n glir o'r arolwg yma yw'r ffaith bod pobl wedi troi eu cefnau ar Lafur ac o ran Cleggmania dydi'r Democratiaid Rhyddfrydol heb symud ymlaen o gwbl".

"Dydi'r awgrym ddaw o'r arolwg ddim yn cyd-fynd efo beth dwi wedi ei weld a'i glywed ar lawr gwlad" oedd ymateb Mike German ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

Edliw effaith dadleuon yr arweinwyr, heb gynrychiolydd o'i blaid ef wnaeth John Dixon ar ran Plaid Cymru:

"Dwi'n credu bod pleidleisiau Plaid Cymru wedi cael eu gwasgu gan y dadleuon" oedd ei ymateb.

"Bydd yn rhaid i ni ddysgu o hyn ar gyfer etholiadau'r dyfodol" ychwanegodd.

Fe gaeodd y blychau pleidleisio am 10pm.

Bu etholwyr yn pleidleisio mewn 649 o etholaethau ar hyd a lled Prydain. Mae yna 40 o etholaethau yng Nghymru.

Yn 2001 62.4% o boblogaeth gymwys Cymru bleidleisiodd gyda'r canran yn cynyddu ychydig i 62.6% bedair blynedd yn ddiweddarach.

Serch hynny awgrymodd arolwg diweddar gan YouGov y gallai 73% o oedolion cymwys Cymru fwrw pleidlais yn yr etholiad hwn.

Disgwylir y canlyniad cyntaf yng Nghymru tua hanner nos gyda thrwch yr etholaethau i gyhoeddi eu manylion nhw tua 4am ddydd Gwener.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific