British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 7 Mai 2010, 16:01 GMT 17:01 UK
Angladd llanc 17 oed

Aamir Siddiqi died after being st
Roedd angaldd Aamir Siddiqi ddydd Gwener

Cafodd angladd Aamir Siddiqi ei gynnal yng Nghaerdydd.

Cafodd y llanc 17 oed ei ladd â chyllell ar ôl agor drws y tŷ yn y Rhath ar ddydd Sul, Ebrill 11.

Roedd y gwasanaeth ym mosg Bilal yn Nhreganna.

Mae dau ddyn wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar gyhuddiad o lofruddio Aamir, ac o geisio llofruddio ei rieni.

Mae dros 3,000 o bobl wedi llofnodi tudalen er cof am Aamir ar wefan Facebook.

'Croeso i bawb'

"Mae croeso i bawb (o bob crefydd a chefndir) sydd am roi teyrnged i fynychu'r angladd, " meddai datganiad ar y dudalen.

Mae cyfeillion Aamir yn defnyddio'r safle i godi £700 er mwyn noddi mainc er cof amdano ym mharc y Rhath.

Bydd unrhyw arian ychwanegol yn cael eu rhoi i elusennau.

Dywedodd un o'i ffrindiau: "Roedd ei rieni am i bobl gyfrannu i hoff elusennau Aamir, felly bydd unrhyw arian sy'n weddill yn mynd tuag at yr elusennau hynny".

Ei hoff elusennau oedd Islamic Relief a Chymorth Dŵr.

Dywedodd un arall o'i gyfeillion: "Dwi'n gwybod am o leiaf 50 o bobl dwi'n adnabod sy'n bwriadu bod yn yr angladd, bydd yna gannoedd ar y strydoedd."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific