British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 5 Mai 2010, 06:53 GMT 07:53 UK
Trosedd electroneg: 'Mwy na dyblu'

Cyfrifiadur
Arolwg: Bron 50% wedi dweud bod staff wedi colli neu ollwng manylion sensitif

Mae mudiad wedi rhybuddio bod nifer y rhai sy'n diodde oherwydd troseddau electroneg wedi mwy na dyblu mewn blwyddyn.

Ers y llynedd, meddai e-drosedd Cymru, mae cynnydd o 67% wedi bod yn nifer y troseddau, gan gynnwys dwyn cyfrinair, dwyn gwybodaeth a lledu firws.

Mae arolwg y mudiad wedi dangos bod colli gwybodaeth gyfrinachol yn ofid mawr - dywedodd bron i 50% fod eu staff eu hunain wedi colli neu ollwng manylion sensitif.

Yr amcangyfri yw bod busnesau Cymru'n colli £373 miliwn y flwyddyn a'r cyfanswm yng ngwledydd Prydain yw £10 biliwn.

Dywedodd rheolwr heddlu'r mudiad, Andrea Barnard: "Mae busnesau ar eu hennill am fod y dechnoleg yn fwy integredig ac mae hyn yn arwain at leihau costau a bod yn fwy cystadleuol.

'Cam ar y blaen'

"Ond mae'r troseddwyr yn anelu at fod gam ar y blaen ac yn dod o hyd i ffyrdd newydd o dargedu busnesau.

"Fe ddylai busnesau fod yn wyliadwrus ac yn effro i'r atebion diweddara o ran sicrhau bod masnachu'n saff."

Ar hyn o bryd mae Cymru ar flaen y gad wrth ddelio ag e-drosedd, meddai.

Ymhob heddlu mae swyddog e-drosedd a phob blwyddyn mae cynhadledd yn cael ei chynnal er mwyn rhoi gwybod i fusnesau am y bygythiadau diweddara.

Fe fydd cynhadledd e-drosedd yn cael ei chynnal yng Ngwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd ar Orffennaf 15.



HEFYD
Straw yn targedu troseddwyr y we
18 Ebr 01 |  Newyddion
Defnyddwyr gwe i herio troseddwyr
31 Hyd 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific