Yn Llys y Goron Caerdydd fe gafodd Ratcliffe ei garcharu am ddwy flynedd
|
Mae dyn 20 oed wedi cael ei garcharu am roi cartref ei gariad ar dân pan oedd o dan ddylanwad y cyffur mephedrone. Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Lee Ratcliffe, 20 oed, wedi cymryd y cyffur anghyfreithiol cyn ffrae â'i gariad mewn parti. Yna aeth draw i'w thŷ ar ôl clywed "lleisiau yn ei ben" yn dweud wrtho i losgi'r tŷ i'r llawr. Dwy awr yn ddiweddarach cysylltodd â'r heddlu gan ddweud: "Dwi allan o reolaeth - dwi wedi cymryd miaow." 'Lleisiau' Yn y llys dywedodd yr erlynydd David Webster: "Dywedodd Ratcliffe fod lleisiau yn ei ben yn dweud wrtho am gynnau'r tân. "Felly rhoddodd flanced ar dân mewn ystafell wely a gadael." Gwnaed difrod difrifol i'r tŷ yng Nghwmbrân a lledodd y tân i dŷ cyfagos. Cafodd Ratcliffe o Gwmbrân ei garcharu am ddwy flynedd ar ôl cyfaddef cynnau tân yn fwriadol gan beryglu bywyd yn ddiofal. Dywedodd y Barnwr David Morris: "Roeddech chi'n gwybod bod y weithred yn anghywir. Yn fwy na hynny, roedd yn ddiofal. "Nid yw bod o dan ddylanwad diod neu gyffuriau yn gwneud unrhyw wahaniaeth ac nid yw'n esgus."
|