Cafodd y coleg ei sefydlu yn 1927
|
Mae undeb y darlithwyr wedi yn dweud eu bod yn poeni am ddyfodol Coleg Harlech yng Ngwynedd. Daw hyn yn sgîl penderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i beidio â rhoi arian ar gyfer cynllun i godi llety newydd i fyfyrwyr. Dywedodd yr undeb y gallai hyn newid rôl y coleg sy'n darparu cyrsiau i oedolion. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud bod y Gweinidog Addysg wedi gwneud y penderfyniad ar ôl derbyn casgliadau arolwg annibynnol. Roedd y gweinidog Leighton Andrews wedi derbyn argymhelliad yr arolwg i roi diwedd ar gynllun sy'n cynnal addysg myfyrwyr o Loegr yn y coleg. 'Ar ei cholled' Mae yna fwriad i ddymchwel y neuadd myfyrwyr yn 2012. Honnodd Craig Lewis o'r undeb nad oedd yr arolwg yn "ystyried gwir botensial y coleg." "Heb fuddsoddiad mewn campws newydd mae yna farc cwestiwn am y math o addysg y bydd y coleg yn gallu ei ddarparu. "Os yw hyn yn digwydd, fe fyddai Cymru ar ei cholled." Cafodd y coleg ei sefydlu yn 1927. Mae'r sefydliad yn darparu cyrsiau preswyl hir a byr gyda'r dydd a'r nos. Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd Mr Andrews ei fod yn derbyn argymhellion yr arolwg. Cefnogaeth "Roedd yr arolwg yn gweld potensial i ehangu addysg ail gyfle heb yr angen i ddibynnu ar neuadd breswyl," meddai. Yn ôl yr adroddiad, roedd "darparwyr eraill" yn cynnig modd i gynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer pobl sy am gael ail gyfle mewn addysg. Roedd cynllun yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr o Loegr, gyda myfyrwyr o Gymru yn derbyn yr un gefnogaeth dros y ffin, wedi cael ei feirniadu. Y rheswm oedd bod bron hanner myfyrwyr Coleg Harlech yn dod o Loegr, dim ond llond dwrn o fyfyrwyr Cymru oedd yn manteisio ar gyfleoedd tebyg dros y ffin. Dywedodd y coleg eu bod yn anfodlon ar gasgliadau'r adroddiad, gan ddweud nad oedd yn adlewyrchu gwir gyfraniad y sefydliad i'r economi leol. "Rydym yn benderfynol i barhau i gynnig cyfle i oedolion barhau i breswylio yn y coleg. "Fe fyddwn yn dod o hyd i ddulliau newydd o helpu myfyrwyr ac yn dod o hyd i ffynonellau newydd o arian." Mae'r coleg yn cyflogi 58 o bobl.
|