British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 28 Ebrill 2010, 12:18 GMT 13:18 UK
SNP: Colli apÍl dadl deledu

Alex Salmond
Alex Salmond: Wedi gobeithio bod yn rhan o'r ddadl deledu

Methiant fu ymdrech yr SNP i wahardd y BBC rhag darlledu'r ddadl Brif Weinidogol yn Yr Alban nos Iau.

Llwyddodd y blaid i godi £50,000 cyn dadlau eu hachos mewn llys barn yng Nghaeredin.

Honnodd y blaid nad oedd y BBC wedi bod yn ddiduedd wrth beidio â chynnwys yr SNP yn y ddadl ar BBC 1 ond gwrthodwyd y dadl honno gan y barnwr, y Fonesig Smith, wedi deuddydd yn y llys.

Mae'r blaid a Phlaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu i fod yn rhan o'r dadleuon teledu Prif Weinidogol.

Roedd Plaid Cymru wedi dweud eu bod yn cefnogi safbwynt yr SNP ond oherwydd gwahaniaethau'r systemau cyfreithiol yng Nghymru a'r Alban nid oedden nhw'n gallu gweithredu ar y cyd.

Gwrthod

Fe gwynodd Plaid Cymru wrth reoleiddwyr y diwydiant darlledu ond gwrthodwyd y gwyn honno gan Ofcom brynhawn Mercher.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr: "Ni all yr SNP na Phlaid Cymru ffurfio'r llywodraeth nesa yn San Steffan.

"Mae hwn yn etholiad Prydeinig.

"Mae yna ddadleuon ar wahân wedi eu cynnal yng Nghymru a'r Alban sy wedi rhoi llwyfan i Blaid Cymru a'r SNP."

Mae Llafur yn cyhuddo arweinydd yr SNP, Alex Salmond, o geisio cyhoeddusrwydd.

"Mae ei sylw ar geisio sicrhau penawdau papurau newydd gan ei fod yn gwybod nad yw'n ennill y ddadl," meddai llefarydd.

"Mae o eisiau cymryd rhan a chael ei weld yn cymryd rhan - er nad yw'n ymgeisydd yn yr etholiad."

'Dadl olaf'

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol bod ymdrech gyfreithiol yr SNP yn "arwydd o anobaith".

"Mae'r darlledwyr wedi gwneud eu penderfyniad ac wedi gwahodd arweinwyr y pleidiau sy'n ymgyrchu ar draws y Deyrnas Unedig," meddai Nick Clegg.

"Mae'n ddealladwy felly nad ydyn nhw wedi gwahodd Alex Salmond."

Yr wythnos diwetha fe wrthododd Ymddiriedolaeth y BBC gŵyn oddi wrth yr SNP a Phlaid Cymru nad oedden nhw'n rhan o'r dadleuon teledu Prif Weinidogol.

Dadl nos Iau ar y BBC fydd yr olaf rhwng Gordon Brown, David Cameron a Nick Clegg.

Roedd y BBC wedi dadlau bod posibilrwydd na fyddai modd i'r ddadl fynd yn ei blaen pe bai'r SNP wedi ennill yr achos llys.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific