British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 28 Ebrill 2010, 06:21 GMT 07:21 UK
Gwyl y Faenol i'w chynnal eleni

Gwyl Y Faenol
Mae miloedd o bobl wedi bod yn tyrru i Stad Y Faenol dros y blynyddoedd

Fe fydd 10fed Wyl Y Faenol - Gŵyl Bryn Terfel - yn cael ei chynnal eleni.

Penderfynwyd peidio â chynnal yr ŵyl y llynedd oherwydd colledion ariannol yn 2008 a methu denu artistiaid penodol.

Ddydd Mercher dywedodd Ymddiriedolaeth Gŵyl y Faenol fod Bryn Terfel yn "falch o gyhoeddi y bydd yr ŵyl ryngwladol yn cael ei chynnal eleni ar Stad y Faenol rhwng Awst 27 a 30 ."

Dywedodd datganiad ar ran yr ymddiriedolwyr eu bod wedi trefnu cytundeb â'r hyrwyddwyr Universal Music Classical Management & Productions (UMCMP).

Maen nhw hefyd wedi sicrhau cefnogaeth "allweddol" oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Gwynedd, yn ôl y datganiad.

'Cyffrous'

Dywedodd y trefnwyr y byddai nifer o enwau "cyffrous" yn perfformio yn yr ŵyl fydd yn "dathlu'r gorau o'r 10 mlynedd diwethaf ac yn cynnwys elfennau newydd".

"Fe fydd 'na strwythur newydd," meddai'r llefarydd.

"Rydym yn bwriadu cyhoeddi manylion y perfformwyr a manylion y tocynnau dros yr wythnosau nesaf."

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i BBC Radio 1 gyhoeddi enwau'r artistiaid fydd yn ymddangos yn Y Faenol ar Fai 22 a 23 ar gyfer sioe Radio 1, y Big Weekend.



HEFYD
Cheryl Cole i ganu yn y Faenol
26 Ebr 10 |  Newyddion
Diwedd y gn yw'r geiniog
18 Meh 09 |  Newyddion
Boyzone yn agor Gwyl y Faenol
06 Maw 08 |  Newyddion
Cais i ddenu'r 'digwyddiadau mawr'
07 Ebr 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific