British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 27 Ebrill 2010, 16:17 GMT 17:17 UK
Trefnwyr gwyl dan y lach

The festivalGwyl myfyrwyr
Fe gafodd yr ŵyl ei chynnal am y tro cyntaf yng Nghernyw yn 2007.

Mae gwrandawiad i gynlluniau i gynnal gŵyl mewn parc gwledig wedi clywed fod y trefniadau yn "llanast llwyr".

Dydd Mawrth oedd y diwrnod cynta i gynghorwyr ar bwyllgor trwyddedu Cyngor Caerfryddin glywed tystiolaeth ar gyfer cais i leoli gŵyl ym Mharc Gwledig Penbre, ger Llanelli.

Fe fydd 16 o wrthwynebwyr yn rhoi tystiolaeth ger y pwyllgor tra bod dros 100 o bobl wedi anfon llythyrau yn gwrthwynebu bwriad cwmni Beach Break Live.

Bydd trefnwyr yr ŵyl, fydd yn cynnwys artistiaid fel Calivn Harris a Plan B, yn ymddangos gerbron y pwyllgor yn ddiweddarach yn yr wythnos.

Mae'r trefnwyr wedi gwenud cais am drwydded ar gyfer 19,999 o bobl rhwng Mehefin 14 a 18.

'Problemau alcohol'

Dywedodd cynghorydd Stephen James o Benbre nad oedd digon o waith ymchwil wedi ei wenud gan y rhai tu cefn i'r fenter.

Disgrifiodd y trefniadau fel "llanast llwyr".

Mae gwrthwynebwyr yn poeni am sŵn, problemau alcohol a phroblemau traffig.

Fe fydd rhan helaeth o'r parc yn gorfod cau ar gyfer yr ŵyl.

Ysgrifennodd 10 o bobl o blaid y syniad.

Caint

Mae disgwyl i'r gwrandawiad bara tan ddydd Iau.

Dywedodd cwmni Beach Break Live nad oeddyn nhw am wneud sylw cyn rhoi tystiolaeth.

Yn y gorffennol mae'r cwmni wedi dweud y bydd y digwyddiad yn hwb i'r economi leol.

Cafodd yr ŵyl gyntaf ei chynnal yng Nghernyw yn 2007.

Ond bu'n rhaid i'r trefnwyr ail-leoli i barc saffari yng Nghaint yn 2008 ar ôl i gynghorwyr wrthod rhoi caniatâd cynllunio iddyn nhw.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific