British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 25 Ebrill 2010, 09:23 GMT 10:23 UK
'Camgymeriadau'n dyblu'

Embryo (generic)
Cyfanswm y camgymeriadau yn 2008-9 oedd 334

Mae nifer y camgymeriadau mewn clinigau triniaeth IVF yng Nghymru a Lloegr bron wedi dyblu dros y flwyddyn ddiwetha, yn ôl ystadegau ddaeth i law'r BBC.

Cyfanswm y problemau gafodd eu cofnodi oedd 182 yn 2007-8.

Y cyfanswm yn 2008-9 oedd 334.

Mae arbenigwr wedi galw ar yr Awdurdod Ffrwythlondeb ac Embryoleg, y corff sy'n goruchwylio clingau sy'n cynnig y triniaethau, i weithredu'n fwy llym.

Fe fydd Cymraes yn sôn am ei phrofiadau ar raglen Donal MacIntyre ar Radio 5 nos Sul - bod ei hembryos wedi mynd ar goll.

'Sicrwydd'

Dywedodd Clare nad oedd am roi ei chyfenw: "Cyn y driniaeth fe ges i wybod taw dim ond un embryo oedd ar ôl am fod dau wedi mynd ar goll.

"Yna fe ges i 'sicrwydd' nad oedd yr embryos wedi cael eu plannu yng nghorff rhywun arall.

"Y pwynt yw hyn - fe alli'r ddau embryo fod wedi datblygu'n ddau fabi."

Yr unig esboniad, meddai, oedd bod nam yn ystod y broses rewi.

Mae'r clinig dan sylw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, wedi dweud bod ei record "ymhlith y gorau yn y byd" a bod yr awdurdod ffrwythlondeb yn cael gwybod am bob digwyddiad.

Dywedodd y Dr Sammy Lee o Ysbyty Coleg y Brifysgol yn Llundain: "Prif wendid yr awdurdod ffrwythlondeb yw eu bod yn gwneud cais nid yn gweithredu'r hyn ddylai ddigwydd.

"Does dim pwynt gofyn yn ysgrifenedig ... rhaid sicrhau bod y drefn yn cael ei gweithredu."

'Ymddiheuro'

Fe gafodd cwpwl o Gymru iawndal ar ôl i glinig ffrwythloni yn Ysbyty Athrofaol Cymru blannu yr embryo olaf yng nghorff menyw arall.

Fe dderbyniodd Debra a Paul o Ben-y-bont ar Ogwr £25,000 o iawndal wedi'r camgymeriad ym mis Rhagfyr 2007.

Roedd Ymddiriedolaeth Caerdydd a'r Fro wedi ymddiheuro, gan ddweud bod eu systemau wedi cael eu newid.

Rhaglen Donal MacIntyre, BBC Radio 5, 7.30pm, nos Sul



HEFYD
IVF: Galw am fwy o driniaethau
16 Meh 09 |  Newyddion
Embryo: 'Chwalu ein byd'
15 Meh 09 |  Newyddion
Clinig: 'Profiad ysgytwol'
14 Meh 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific